GAIR O'R CYNULLIAD

Y  Cynghorydd Geraint Davies AC oedd y siaradwr gwadd yng nghyfarfod blynyddol Menter Iaith ym mis Tachwedd.
   Dechreuodd Geraint Davies drwy nodi y datblygiadau sydd wedi esgor ar yr ymdeimlad o "Cðl Cymru" tu fewn a thu allan i ffiniau Cymru, e.e. gweithgareddau fel Cwpan Rygbi'r Byd, Stadiwm y Milflwydd, Y Cynulliad Cenedlaethol, sêr ffilm a byd drama, ymddangosiad cynyddol y ddraig goch a llawer mwy. Ers 600 mlynedd roedd Cymru wedi bod yn wlad ddarostyngedig. Roedd hi nawr yn bosib mynegi barn mewn dull democrataidd. Teimlodd ei bod hi'n drist nad oedd mwy o'r aelodau o fewn y Cynulliad yn defnyddio'r iaith. Roedd hi nawr yn bosib symud o un iaith i'r llall yn rhwydd. Teimlodd ei bod hi'n annerbyniol bod y cyfryngau yn anwybyddu cyfraniadau Cymraeg yn y Cynulliad.

   Aeth ymlaen i longyfarch Cyngor Rhondda Cynon Taf ar ei Gynllun Iaith a bod hi nawr yn allweddol bod unigolion o fewn y Sir yn pwyso ar yr adrannau am wasanaethau Cymraeg.
   Gwnaeth apêl i ysgolion gael cyfleusterau ac adnoddau cyfieithu ar gyfer eu cyfarfodydd rhieni, llywodraethwyr ac yn y blaen. Nododd er enghraifft bod un o bob tri o blant ardal y Rhondda Fawr nawr yn mynychu ysgolion Cymraeg. Yn y sector Uwchradd yn Rhondda Cynon Taf y disgwyl oedd y byddai 4,000 o ddisgyblion erbyn 2008. Er yn croesawu y twf ym Mro Ogwr rhaid oedd diogelu dyfodol ysgol lwyddiannus fel Llanhari o fewn ffiniau RH CT.
   Gwnaeth apêl ar bawb yn yr ardal i bwyso yn galed ar swyddogion ac aelodau etholedig y Cyngor i droi Cynllun Iaith RH CT yn weithrediad gweladwy.


GOLYGYDD
Penri Williams
01222 890040

LLUNIAU
D. J. Davies
01443 671327
CHWARAEON
Martin Huws
01222 811413
ERTHYGLAU
Dafydd Huws
HYSBYSEBION
David Knight 01222 891353
DOSBARTHU
John James 01443 205196
TRYSORYDD
Elgan Lloyd 01222 842115
CYHOEDDUSRWYDD
Colin Williams
01222 890979

TWMPATH Y MILENIWM
gyda
Jac y Do

Nos Wener, Ionawr 17
yn
Neuadd y Pentref
Pentyrch
Tocynnau: £5
01222 890961

Merched y Wawr
Cangen y Garth

Goleuo'r Goeden Nadolig yn Sain Ffagan, Rhagfyr 8ed

Dathlu'r Hen Galan
8.00 Nos Fercher
12 Ionawr 2000

Manylion Pellach:
Gwyneth Jones 01222 891947

Cyhoeddir y rhifyn nesaf
ar y 1af Chwefror
Erthyglau a straeon
i gyrraedd erbyn
19 Ionawr 2000

Y Golygydd
Hendre 4 Pantbach
Pentyrch
CF15 9TG
Ffôn: 029 20 890040

Tafod Elái ar y wê
http://www.tafelai.u-net.com
e-bost
pentyrch@tesco.net

Argraffwyr: 
Gwasg Morgannwg
Uned 27, Ystad Ddiwydiannol
Mynachlog Nedd
Castell Nedd SA10 7DR
Ffôn: 01792 815152

2