|
Ysgol Evan James
Ymweliadau Aeth dosbarthiadau 11,12,13 +14 i Sain Ffagan - cawsant gyfle i fynd i'r ysgol ac ymddwyn fel plant oes Victoria. Bu'r Babanod yn y Miwni yn gweld cynhyrchiad o Sali Mali gan S4C. Cynhaliwyd disgo Calan Gaeaf i'r adran Iau gan Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yr ysgol. Diolch i Rhodri Francis am ei wasanaeth fel DJ. Daeth Mrs Moses, Is-gadeirydd Cyngor RhCT i'r ysgol i dderbyn siec i gronfa llid yr ymennydd, sef apel arbennig y maer. Casglwyd yr arian yn ystod ein gwasanaeth Cynhaeaf.
Brodwaith y Milflwydd Diolch o galon i'r plant ac i Mrs Lisa Thomas ein cydlynydd celf am fynd ati i greu cyfraniad yr ysgol at yr arddangosfa yng Nghromen y Milflwydd.
Rygbi Llongyfarchiadau i dîm rygbi'r ysgol - mae'r canlyniadau wedi bod yn wych yn ddiweddar. llongyfarchiadau hefyd i'r tîm rhwydbel ar drechu tîm Castellau yn ddiweddar. Aeth Christopher Lidden i gynrychioli Ysgolion Pontypridd yn Seremoni Cloi Cwpan Rygbi'r Byd Ym Maes Y Milflwydd.
Actio Dewiswyd Cari Bailyes i actio mewn rhaglen newydd ar gyfer y teledu. Cawn glywed ei hanes yn rhifyn nesaf Tafod Elái
Digwyddiadau: Bydd ffair Nadolig a ffair Lyfrau yn cael eu cynnal yn neuadd yr ysgol nos Iau , Rhagfyr 2il. Cynhelir Gwasanaeth Nadolig CA1+2 yng Nghapel Sardis, Nos Fawrth Rhagfyr 7fed am 6.30 pm.
|
|