PENTYRCH

Gohebydd Lleol: Eleri Jones

TONTEG A PHENTRE'R EGLWYS

Gohebydd Lleol: Helen Jones

Doniau disglair
Llongyfarchiadau i Lowri Morris, Troed y Garth. Dewiswyd ei gwaith Celf  TGAU ar gyfer arddangosfa ddiweddar yng Nghanolfan Celf a Chrefft Pontypridd.  Mae'n amlwg ei bod wedi etifeddu dawn artistig ei mam!

Pêl-rwyd
Cafodd Cerian Hughes, Maes y Sarn brofiad diddorol yn ddiweddar pan ddewiswyd hi fel un o ferched y bêl ar gyfer gemau rhyngwladol pêl-rwyd ryngwladol yn yr Arena Rhyngwladol yng Nghaerdydd. Cafodd gyfle i weld Awstralia, Seland Newydd a Lloegr yn chwarae.

Merched Y Wawr
Daeth Hannah Roberts o Gaerdydd i gyfarfod Mis Tachwedd a chafwyd noson ddiddorol yn gwrando arni'n sôn am fotymau arbennig oedd yn dwyn atgofion personol iddi.
Meryl Mowbray o Faes y Sarn oedd enillydd yr hamper a baratowyd gan yr aelodau ar gyfer y ffair i godi arian at Neuadd y Pentref. Llongyfarchiadau iddi hi! Deallwn ei bod wrth ei bodd gyda'r wobr.

Ar y Llwyfan
Da oedd gweld cynrychiolaeth o'r pentref ar lwyfan yr Ðyl Gerdd Dant eto eleni. Llongyfarchiadau i Ifan Roberts Tþ Cnau a gweddill aelodau Parti'r Efail ar ddod yn drydydd yn y gystadleuaeth i bartion cerdd dant.
Hefyd gwelwyd llawer o ieuenctid y pentref yn dangos eu doniau ar lwyfan Yr Ðyl Ddrama; Catrin Heledd yn rhan o ddrama Ysgol Gyfun Llanhari a Deri Hughes, Lowri Morris, Heledd Morris, ac Amy Coombes yn rhan o banto llwyddiannus yr ysgol.

Ar y Sgrîn
Ymddangosodd Nia Morris, Troed y Garth, Cai a Catrin Parry Jones Lon y Fro, a Gwilym Hughes, Dol y Coed  ar Uned 5 yn ddiweddar. Cawsant gyfle i weld "Gðr y

Gwyrthiau" ac wedyn teithio i Gaernarfon i roi eu sylwadau am y ffilm  ar y teledu.

Talwrn y Beirdd
Trodd gwahoddiad Clwb y Dwrlyn i'r BBC recordio Talwrn y Beirdd yn ein mysg yn "ddarbi"  rhwng dau dîm lleol - Aberhafren a'r Dwrlyn. Mae'r ddau dim yn gynnyrch dosbarthiadau nos "Nyddu'r cynganeddion" (Rhys Dafis) lawr yn festri Gwaelod y Garth - yn wir mae trydydd tîm sef "Yr Awyr iach" hefyd yn ddisgyblion yr ysgol ryfeddol hon ar nos Fawrth.
   Os bu i chi ymuno â'r gynulleidfa yng ngwesty'r Ansawdd neu eich bod yn darllen y nodyn hwn ar ôl 28 neu 30 Tachwedd (amser y darllediadau), yna fe fyddwch yn gwybod pwy faeddodd ar y noson. Os na chlywsoch y rhaglen o gwbl - holwch unrhyw un o'r aelodau - Rhodri Gwynn-Jones, Menna Thomas, Emyr Phillips, Huw Llewelyn Davies ac Ifan Roberts (Tîm Y Dwrlyn) neu Rhys Dafis, Tony Bianchi a Nia Evans, (Tîm Aberhafren) gydag Efa Gruffydd a Mari George ar fenthyg o griw'r Awyr Iach.

Dathlu Penblwydd.
Llongyfarchiadau i Mair Harries, Llys Celyn, Tonteg sydd newydd ddathlu ei phenblwydd yn 80 oed ym mis Tachwedd, a phob dymuniad da iddi yn y mileniwm newydd.

Ar y Radio.
Braf oedd clywed llais Aneira Davies, Tonteg, ar y radio yn adrodd hanesion am yr amser pan oedd hi'n nyrs yn Rhydfelen. O wrando ar ei sgwrsio byrlymus gyda Nia, teimlem y gallai Aneira lenwi sawl rhaglen gyda'i hanesion difyr.

Brysia Wella
Dymuniadau gorau am wellhad llwyr a buan i Rhiannon Humphreys, Y Padocs, ar ôl iddi dreulio cyfnod yn yr ysbyty yn ddiweddar.

SIOP BARA
Y PENTREF
Heol St Illtyd
Pentre'r Eglwys

Bara a chacennau
wedi eu pobi yn y siop
mewn ffwrn draddodiadol.
Mrs Janet Evans
01443 202013
Trefnir Arlwyo

4