YSGOL GYFUN LLANHARI


LLEDDFU PRYDERON


Ar ddydd Mercher y 27ain o Hydref gwahoddwyd criw CGCC yr ysgol a'r tîm dawnsio gwerin i ddiddanu ac i weini te mewn cyfarfod yng Nghanolfan hamdden Llantrisant. Bwriad y prynhawn oedd i leddfu'r ansicrwydd a'r ofn sydd yn bodoli yn ein cymdeithas heddiw ac i arddangos nifer o gamau diogelwch a ellid eu cymeryd er mwyn lleddfu'r posibilrwydd o drais yn erbyn eiddo neu berson.
   Perfformiwyd un ddawns draddodiadol ac un darn offerynnol traddodiadol gan grðp offerynnol ifanc Llanhari. Perfformiwyd dawns y glocsen gan Eifion Weinzweig ac fe fu'r prynhawn yn llwyddiant mawr.
   Ar ôl y cyfarfod gweinwyd y te gan ddisgyblion y cwrs Arlwyo CGCC ac fe fu'r profiad o drafod a'r cyhoedd unwaith eto yn help i ddatblygu eu sgiliau ymarferol a chyfathrebu.

Adrian Jones

Grðp Stepio Llanhari

YR ÐYL GERDD DANT

Yn ystod penwythnos 12ed/13eg bu tîm dawns Ysgol Llanhari yn cystadlu yn yr Ðyl Gerdd Dant yng Nghorwen. Aeth criw ohonom i fyny ac aros dros nos yng Ngwersyll yr Urdd Glanllyn. Roedd yn benwythnos prysur - nofio, ymarferion bowlio deg ar nos Wener a gorfod codi am 6.30 er mwyn cyrraedd y rhagbrofion am 8.15 ar fore Sadwrn (er i ni fod ychydig yn hwyr ar ôl colli ffordd i'r rhagbrofion!).
   Roedd y cystadlu yn frwd ac er i'r tîm ifanc ddawnsio'n ysgafn droed, gwenu ac ymateb - pedwerydd safle oedd dyfarniad y beirniad. Newyddion da serch hynny i'r clocswyr sef  Nia Joille ac Eifion Weinzweig, Lloyd George, Nicola Herne a Johnathan Phillips. Er mai newydd ddechrau ymarfer oedd y tîm cafodd y grðp brofiad o ddawnsio ar lwyfan yr Ðyl a'r profiad o fod yn rhan o raglen S4C y noson honno. 3ydd oedd dyfarniad y beirniad y tro hwn ond rwy'n sïwr y cawn weld a chlywed fwy wrth y dawnswyr ifanc yn y  dyfodol agos. Llongyfarchiadau unwaith eto.

Adrian Jones.

PANTO 6ed LLANHARI

Erbyn hyn mae'n draddodiad i aelodau 6ed dosbarth Ysgol Llanhari gymeryd rhan yn y gystadleuaeth Pantomeim yng Ngðyl Ddrama Tafod Elái ac ennill y tlws.
   Dros y 4 wythnos diwethaf mae tua 25 o aelodau blwyddyn 12 wedi bod wrthi yn ymarfer ar gyfer cynhyrchiad eleni sef "Yn y goedwig" a gafodd ei ysgrifennu gan Meilyr Hedd ap Ifan.
   Lleolwyd y panto yn nheyrnas hud y brenin Llew. Mae'r panto yn cychwyn ym mharti penblwydd Gwen merch y brenin ond chwalwyd y dathliadau wrth i lais ofnus y wrach gas Ceridwen Chwilen atgoffa Gwen fod ganddi 3 diwrnod i briodi neu fe fydd teyrnas heddychlon ei thad yn cael ei drosglwyddo i grafangau Cathreulgar yr hen wrach.
   Ymunwch a Twm a'r ffrindiau yn eu her i achub y goedwig.

Jordan Morgan Hughes

Eifion yn gwneud dawns y glocsen

Grðp offerynol Llanhari