bechgyn Rhydian a Garmon i'r pentre. Newydd ymgartrefu yn' Pentir Hir' ar Heol y Pentre mae'r teulu, ar ôl symud o Victoria Park, Treganna.

   Mae Huw yn Olygydd Newyddion i HTV, a Siân yn gweithio'n annibynnol yn gwneud gwaith llais, cyflwyno a chynhyrchu i HTV a S4C. Adnabyddir Siân ar deledu trwy ei henw morwynol Siân Bassett.

   Mae'r bechgyn yn mynychu Ysgol Gynradd Creigiau. Gobeithio bydd y teulu'n hapus iawn yn ein 'mysg. Croeso.


Cwymp ar y Llethrau

Cafodd y genedl gyfan glywed am anffawd Catrin Roberts, Ty Cnau. Ar ddiwrnod olaf ei thaith sgio i'r Awstria fe dorrodd asgwrn yn ei hysgwydd a chael ei hebrwng i'r ysbyty. Ei gorchwyl cyntaf ar ôl dod adref oedd cyflwyno rhaglen brynhawn Radio Cymru gyda Kevin Davies. Fe adroddwyd yr hanes i gyd o'r cwymp ar y llethr a'r daith i'r ysbyty.


Profiadau yn Affrica

Croeso nôl i Daniel Rochford, Maes y Sarn, sydd wedi bod ar daith gyda Operation Raleigh i Ghana am dris mis. Yno bu'n gweithio yn y coedwigoedd trofannol yn adeiladu cartrefi coed ar gyfer ysgol leol a helpu i wella ansawdd bywyd y brodorion.


Cydymdeimlad

Cydymdeimlwn â Carol Williams, Hendre, Pantbach, a'r teulu ar farwolaeth tad Carol  ar ddechrau mis Ionawr. Bu Ted Prater, tad

Dathlu'r Mileniwm

Ar brynhawn Dydd Calan, mentrodd bron i ddwy fil (yn ôl pob sôn) ohonom i fyny Mynydd y Garth, i ddathlu'r Mileniwm newydd, drwy gynnau fflamltorch/coelcerth!. Dechreusom o Neuadd y Pentref, lle bu'r Fari Lwyd yn diddanu ac yna arwain yr orymdaith.Roedd y naws yn arbennig ac yn hyfryd gweld cymaint o gefnogaeth i fenter newydd. Roedd yn olygfa gwerth ei gweld, wrth i'r cyntaf gyrraedd safle y pegwn, roedd rhes o bentrefwyr i'w gweld yn plethu eu ffordd i fyny'r mynydd.

   Cafwyd dathliad o ganu o amgylch y pegwn, cyn i ni gyd fentro yn ôl i lawr, dan ofal golau torchis a lampau. Gorffennwyd y dathlu gyda thân gwyllt yn y clwb rygbi.

   Yn ôl pob tebyg, bydd yn ffurfio rhan o ddathliadau Dydd Calan am flynyddoedd i ddod.


Londis yn newid dwylo

Mae perchnogion presennol Londis sef John a Heather Major, yn agor am y tro olaf ar Ddydd Mercher 26ain lonawr. Deallir bydd y perchnogion newydd, sef Dave a Barrie Llewelyn o Spar Groesfaen yn ail agor ar Sadwm Chwefror 5ed 2000.

   Dymunwn iechyd a hapusrwydd i John a Heather ar eu ymddeoliad.


Merched y Wawr

Ar Nos Fercher 12ed Ionawr, cawsom noson ddifyr yn y Kings Arms Pentyrch yn dathlu'r Hen Galan. Daeth y Fari Lwyd a'i chriw, a chawsant groeso i ymuno â'r merched mewn gwledd o fwyd ac ychydig ddiod!

   Cyn ymadael, plesiwyd pawb gyda'i rhodd o'r sach. Mis nesa' fe fyddwn yn ymweld â'r Village, lle bydd cyfle i nofio, cadw'n heini ac ymlacio (i'r lleiaf egniol!).

Croeso i'r pentref

Croeso i Huw a Siân Roberts, a'r

PENTYRCH


Gohebydd Lleol: Bethan

Côr

Godre'r Garth


Ar Ragfyr 12fed, cynhaliwyd cyngerdd Nadolig gan Gôr Godre'r Garth yng Nghapel y Tabernacl, Efail Isaf. Perfformiodd y côr, o dan ofal ei arweinydd, Wil Morus Jones a'r cyfeilyddion, Margaret Roberts a Bethan Roberts amrywiaeth o ddarnau gan gynnwys Meseia Handel, gyda Roland George yn unawdydd, a threfniant o Salm 150 a gyfansoddwyd gan Gareth Blainey. Yn ogystal cafwyd eitemau difyr gan aelodau unigol sef Eleri Darkin ar y delyn yn perfformio Interlude gan Benjamin Britten, cyflwyniad o gân werin gan Dafydd Idris, a charol draddodiadol gan Huw T Williams. Arweinydd y noson oedd Carol Williams.

Aeth elw'r noson at gronfa apêl Sganiwr MRI Ysbyty Frenhinol Morgannwg. Yn bresennol roedd Margaret Pritchard Copley, cadeirydd yr Ymddiriedolaeth a Sarah Watkins, cyfarwyddwr yr apêl. Codwyd £213.30. Diolch yn fawr i bawb am eu cefnogaeth, ac i Rhiannon Humphreys am drefnu'r noson.

Carol, yn athletwr o fri ac yn weinyddwr ym myd chwaraeon. Ef oedd Rheolwr Tîm Cymru yng ngemau'r Gymanwlad yn Vancouver ac roedd yn un o drefnyddion Gemau'r Gymanwlad yng Nghaerdydd yn 1958. Yn ddiweddarach bu'n gyfrifol am Gynllun Dug Caeredin yng Nghymru.   

Tudalen Nesaf >