|
Dyweddïo Llongyfarchiadau i Sali Gwyn a Christopher Morrisroe ar eu dyweddïad ym mis Ionawr eleni. Mae Sali yn ferch i Marian a Dilwyn Jones, Tþ Gwyn, Ffordd y Gollen ac yn gweithio i gwmni Hyder yma'n y de, tra bo Christopher, sy'n enedigol o Ddyfnaint, yn wyddonydd yn |
|
Llond eu crwyn yn y Llanerch Faint ohonom sy'n ymwybodol ein bod yn byw o fewn tafliad carreg i sawl gwinllan gan gynnwys Panteg, Croffta a hefyd gynhyrchwyr Cariad sef LLANERCH? Y winllan hon yng nghyffiniau Hensol oedd " Llannerch yr oed " i aelodau Clwb y Dwrlyn dridie cyn 'Dolig. Addysgwyd y gwehilion hyn fydd fel arfer yn drachtio bargeinion Tesco neu'r vin de table heb air o sôn am appellation controllée hwnnw a brynwyd a ffrancs ola'r gwylie mewn rhyw sgubor 'sha Calais ble bydd y Ffrancwyr yn cael gwared a'u llynnoedd salaf. Ie, ploncwyr yw'r rhain fel rheol - " Brian pasia'r Chateau Neuf de Betingalw na. Ma'r cyri ma'n dwym" a glywir fynychaf wrth geisio creu argraff ar noson mas yn y brifddinas. Ond y noson hon cawsant wybod am y gelfyddyd o feithrin y winwydden a medi'r grawnwin, y macsu a'r costrelu a hyd yn oed gyfrinachau'r corcyn distadl. Dihidlwyd y cyfan yn ffraeth a difyr gan wir entrepreneur Llanerch sef Peter Andrews: " Hardd y gwr yn rhoddi gwin Ei ddaioni i ddynion" (E.B. ) Do, fe aeth ati i roi blas ar dri gwin gwyn ac un gwawrgoch. Samplwyd y siampên. Yna cafwyd pryd o fwyd i helpu'r gwin i lawr. Mae Llanerch yn ennill clodydd ledled Ewrop a nifer o wobrau rhyngwladol wedi dod i'w rhan. Os am ragor o'r hanes a manylion am y cynnyrch, mynnwch air ag aelodau'r Dwrlyn. Arwyddair y clwb erbyn hyn yw: "Heddiw mae nef. Eiddom ni Yw llannerch rhwng y llwyni" ( R.W.P. ) Rhag ofn fod manylion y noson gofiadwy heb fod yn gwbl glir i'r aelodau gellir cysylltu'n uniongyrchol a Peter Andrews ei hunan ar 01443 225877. Iechyd da hic |
|
CREIGIAU Gohebydd Lleol: Nia Williams |
|
|
|
Ar Fawrth 1, Dydd Gwyl Dewi, bydd BBC Cymru'n lansio papur newydd dyddiol Cymraeg ar y We, Cymru a'r Byd. Mae hon yn fenter gyffrous a fydd yn torri tir cwbwl newydd ym maes newyddiaduraeth Gymraeg ac yn ehangu ei ffiniau i gynulleidfa fyd-eang. Eisioes cafodd tri newyddiadurwr darlledu eu penodi, Elin Angharad o'r Wyddgrug, Martin Huws o Ffynnon Taf a Dafydd Meirion o Benygroes, Gwynedd. Y Golygydd Newyddion yw'r bardd a'r newyddiadurwr, Grahame Davies o Wrecsam. "Mae'r goblygiadau pellgyrhaeddol i'r ffaith y gallwn ni, am y tro cynta', ddod â rhaglenni a deunydd Cymraeg yn ddyddiol at bobol y tu hwnt i gyrraedd trosglwyddyddion rhaglenni radio a theledu Cymru," meddai. "Bydd y gwasanaeth llawn, gyda thestun gweladwy a radio yn ehangu ansawdd y ddarpariaeth |
|
gweithio yng Nghasnewydd. Pob hapusrwydd i'r ddau ohonynt! Cydymdeimlad Estynnwn ein cydymdeimlad llwyraf i'r Dr. Joan Williams, Maes Cadwgan, a gollodd ei mam ychydig cyn y Nadolig. |
|
newyddion ar gyfer pobol yng Nghymru a'r alltudion yn fawr iawn. "Nid rhywbeth i gymryd lle unrhyw elfen o fyd presennol newyddiaduraeth Gymraeg yw hyn ond rhywbeth ychwanegol. "Bydd y newyddiaduraeth a gynhyrchir gan y BBC, fel darlledwr cyhoeddus, yn sicr o fod dipyn yn wahanol ei naws a'i harddull i'r hyn a geir gan newyddiaduron Cymraeg eraill. "Bydd hefyd yn wahanol o ran cynulleidfa: disgwylir mai y tu allan i Gymru y bydd llawer o'i ddefnyddwyr. "Bydd yn wahanol ei gynnwys hefyd, gan y bydd yn darparu yn ogystal astoriau Cymreig, straeon Prydeinig a rhyngwladol yn Gymraeg. "Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous a rydym yn edrych ymlaen at yr her." www.bbc.co.uk/cymru |
|
NEWYDDION YN GYMRAEG AR Y WÊ |
