Cystadleuaeth Gðyl Ddewi 2000

Tafod Elái

BLWYDDYN 4

Beirniad: Gwenllian Jenkins

Ysgrifennu am  "Pan fydda i'n hen" 

Derbyniais bedwar deg pedwar o ysgrifau a bu'n rhaid i mi bendroni'n hir cyn dewis y goreuon. Roedd yn amlwg bod rhai plant wedi cael mwy o arweiniad na'r lleill ac roedd gan bob ysgol ei dehongliad ei hun o'r testun. I rai mae deunaw oed yn swnio'n hen iawn!. Braf eu byd!

   Cefais fwynhad yn darllen eich gwaith i gyd ond, ar ôl pwyso a mesur dyma fy newis.


1. Abbie O'Brien, Ysgol Evan James

2. Mia Grug, Ysgol Llantrisant

3. Sara Thomas, Ysgol Creigiau


BLWYDDYN 4

Beirniad: Gwenllian Jenkins

Celf unrhyw gyfrwng: "Chwarae"

Daeth tri llond bocs o gelf ar gyfer y gystadleuaeth hon a hyfryd oedd gweld dyfeisgarwch y plant wrth ddefnyddio nifer o gyfryngau. Cefais drafferth mawr i ddewis y goreuon. Llongyfarchiadau i chi i gyd.


1. Rhianwen Evans, Ysgol Pont Siôn Norton

2. Charlotte Ackerman, Ysgol Castellau

3. Rebecca Thomas, Ysgol Gwaelod y Garth


Pan fyddai'n hen


"Www! Edrycha ar y ffrog 'na Shelagh" Gwaeddodd Ann-Marie ar draws farchnad Bontypridd ar brynhawn Mercher oer cyn y Nadolig.

   "Buasai hwnnw jyst y peth i wisgo i'r parti lawr y Clwb nos Wener" atebodd Shelagh.

   Dechreuodd y ddwy ferch ifanc i deimlo defnydd sidanaidd y ffrog hardd a chwythai y gwynt ar stondin Mr Williams ym marchnad y dref. Roedd yn amlwg fod Ann-Marie wrth ei bodd gyda'r ffrog a sylwodd taw dim ond un ffrog o'r math oedd ar ôl. Buasai maint y ffrog yn berffaith iddi.

   "Arhosa fanna Shelagh, a paid gadael i neb arall cael y ffrog 'na", mynnodd Ann-Marie wrth iddi fynd i ofyn i Mr Williams am bris y ffrog.

   Ffrog borffor, sidan hyfryd ydw i. Rwy mor borffor â grug y mynydd. Mae gennyf flodau gwyn sydd cyn wynned a'r lili wen fach. Mae gennyf fotymau sydd mor las â ffarwel haf sy'n cau cefn y ffrog. Does gen i ddim breichiau, dim ond strapiau. Rwy'n ddigon hir i ymestyn lawr i bengliniau merch ifanc. Ges i'n wnio mewn ffatri dillad lawr yng Nghaerdydd wythnos diwethaf, a nawr rydw i fan hyn ym marchnad Pontypridd yn aros i rywun fy mhrynu.

   Gobeithio pan fydda'i hen ac yn hongian mewn cwpwrdd yn rhywle byddai wedi gweld dipyn o'r hen fyd 'ma. Pan fyddai'n hen rwy eisiau edrych yn ôl ar fy mywyd a theimlo'n falch o'n hunan.

   Pan af i'r parti nos Wener rydw i eisiau cael y sylw i gyd. Rydw i eisiau pobl i ddweud wrth Ann-Marie taw fi yw'r ffrog ddelaf yn y parti. Gobeithio fod Ann-Marie yn hoffi joio, a dim yn un o'r merched yma sy'n eistedd ar ei phen ôl trwy'r nos yn clebran. Rydw eisiau Ann-Marie i ddawnsio trwy'r nos a byddai'n teimlo petawn i newydd ddod o reid Megaffobia. Rwy eisiau aroglu 'CK ONE' er mwyn i fi allu teimlo'n grêt. Byddai ddim eisiau Amm-Marie i smygu o gwbl, oherwydd dydw i ddim eisiau gwynto fel blwch lludw.

   Pan fyddai'n hen gobeithio fod Ann-Marie wedi edrych ar fy ôl. Gobeithio bydd Ann-Marie yn defnyddio'r pwdwr golchi gorau sydd ar y farchnad - rhywbeth fel Persil a byddai'n gwynto fel blodau'r maes. Rwy'n gobeithio hefyd gael hongian ar lein sychu mewn gwynt ffres, gan obeithio na fydd Ann-Marie yn anghofio amdanai adeg y glaw. Gobeithio hefyd fydd Ann-Marie yn hynod ofalus tra'n smwddio fy nefnydd sidan - byddai ddim eisiau llosgi. Wedyn byddaf eisiau gorwedd mewn cwpwrdd crasu, yn gynnes braf.

  Pan fyddai'n hen ac yn hongian yn y cwpwrdd tywyll du dydwi ddim eisiau Ann-Marie i anghofio amdanaf. Byddaf i eisiau teimlo fel brenhines y ffrogiau. Pan ddaw achlysur pwysig fel priodas neu fedydd byddaf eisiau dod allan unwaith eto.

   Pan fyddai'n hen efallai bydd Ann-Marie wedi cael merch ei hunan. Rhyw ddydd efallai bydd merch Ann-Marie yn agor y cwpwrdd ac yn fy ngweld. Wedyn ni fyddaf yn hen. Byddaf i'n ifanc unwaith eto!


Abbie O'Brien.

Ysgol Evan James



Rhianwen Evans

Abbie O'Brien

Rhianwen Evans

8

Tudalen Nesaf >