TONYREFAIL

Gohebydd Lleol: D.J. Davies

CAWL A CHAN.
Ar brynhawn Sadwrn 11eg o Fawrth daeth nifer o bobl ynghyd i fwynhau ffioled o gawl hyfryd. A daeth David Spratt o Felin Ifan Ddu ag organydd yn eglwys Llandyfodwg i chware'r organ a chafwyd orig o ganu emynau Cymraeg a Saesneg. Yr elw yn mynd at yr achos.

TAFLUNIAU.
Ar nos Fawrth y14eg o Fawrth daeth nifer luosog i Glwb Rygbi Tonyrefail i weld tafluniau gan Mrs Beryl Davies o'r ardaloedd cyfagos ag wedi llwyddo i wneud medli o hen a newydd o Donyrefail ar cylch, noson ddiddorol dros ben.
   Trefnwyd y noson gan bwyllgor Ymchwil Cancr Llywyddwyd gan Mr Lesley Carter Llywydd y pwyllgor lleol, a'r elw yn mynd at yr ymchwil. Ar ôl y lluniau fel arfer roedd y chwiorydd wedi trefnu lluniaeth ar ein cyfer.
   Bydd Beryl yn mynd ar daith i Dde Affrig ar ddechre mis Ebrill. Dymuniadau gorau iddi ar y daith a bydd rhagor o sleids rwy'n siwr.

Sal yn 100 oed.

Nid yn aml iawn rydym yn cael un o'n cymdogion yn dathlu canrif o fywyd, felly y bu yng nghartref Mrs Sal Evans yn Nhylchawen ar y 25ain o Fis Chwefror eleni. Ganwyd Sal ym Mlaenau Ffestiniog, am ryw reswm fe adawodd y Blaenau pan oedd ond chwe wythnos oed i ymgartrefu gyda'i mamgu yn y Mardy Rhondda Fach, ond ar ôl ychydig amser daethant i fyw i Goed Lai, a hynny ar adeg roedd gwaeth glo Coed Lai newydd agor efallai fod hynny rywbeth yw wneud ar symudiad.
  Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Cwmlai er na chafodd hynny lawer o argraff arni  am iddi gael amser caled iawn drwy law ei mamgu, a gorfod gweithio yn galed i fodoli am ei fod yn amser caled, fel y dywed Sal heb flewyn ar dafod mae tlawd roedd y sefyllfa. Ar ôl colli Mamgu er nad oes ganddi lawer o amcan pryd oedd hynny. Fe symudodd i fyny i Donyrefail i fyw dros dro gyda'i modryb, ond byr iawn fu hynny. Fe aeth i weithio yn Nhafarn Y Boars Head, a bu yno hyd ir lle losgi.
   Pan ddigwyddodd y tân fe gyfarfu a Evan Evans ac ar ôl tipyn o amser fe briododd y ddau yn y flwyddyn 1923. Bu Evan yn gweithio yn y gwaith glo a'r gwaith golosg yn Coedlai, ar ôl byw mewn gwahanol lefydd yn y Ton fe ymgartrefont yn Tylchawen yn 1937 y tþ mae yn byw ynddo heddiw. Bu Evan farw yn 1954.
   Yn ystod yr amser y buont gyda'u gilydd cawsont bump o blant ond yn anffodus dim ond un o ohonynt sydd wedi  byw sef Mair, hithau yn briod â Trefor ac yn byw yn y Ton. Mae ganddynt ddwy ferch a bachgen, Beverley yn athrawes yng ngholeg Technegol Barry ag yn briod â Richard a chanddynt dri o fechgyn Owen, Huw ac Alun, cyn ddisgyblion Ysgol Gymraeg Llantrisant ag Ysgol Gyfun Llanhari. Mae Jeff yn athro yn Ysgol Gyfun Y Pant ag yn briod â Ann, merch o Sir Fôn ag yn athrawes yn Ysgol Gymraeg

Tonyrefail a chanddynt fachgen Bryn a merch Llinos a chyn ddisgyblion Ysgol Gymraeg Tonyrefail a Bryn yn gyn ddisgybl  Llanhari a Llinos yn Ysgol Gyfun Y Cymer. Mae Janice yn byw yn Aberdar ac yn briod â Deryck a chanddynt un bachgen yn unig Andrew, hyn i gyd yn gwneud Sal yn ben ar bedair cenhedlaeth.
    Yn ystod yr amser ar ôl colli ei chymar bu Sal yn ddawnswraig ben i gamp ar ôl bod yn dilyn cyrsiau yn Maesyrhaf yn Trealaw, ac wedi gwneud enw iddi eu hyn, dewisodd hyn er mwyn cael cwmni.
       Derbyniodd Sal lawer iawn o gardiau ag wrth gwrs un wrth y Frenhines a llawer iawn o ymwelwyr ag wrth gwrs yr holl deulu sydd yn agos iawn at ei chalon ag yn wir Frenhines arnynt. Pob bendith Sal a diolch am y croeso ar ymgom gefais ganddoch.
D.J.D.

Colli Enid
Ar Ddydd Gwener y  10fed o Fis Mawrth bu farw Mrs Enid Morgan Heol Pengarreg Tonyrefail ar ôl bod am gyfnod yn yr ysbyty a chyfnod olaf yng Nghartref Rhiwfelen.
   Roedd Enid yn un o deulu adnabyddus yn y Ton, chwaer i'r canwr Gerald Davies a oedd yn enwog fyd eang ag yn byw yng Nghaerdydd, a brawd arall iddi yw Glyn Davies yntau hefyd yn meddu ar lais hyfryd ag wedi bod yn aelod o  gôr bechgyn Boneddigion y Gan dan arweinyddiaeth Richard Williams am flynyddoedd.
    Geidw Enid ferch Margaret Owen a'i chymar John a dau o fechgyn, hefyd mab Huw sydd yn byw yng Nghaerdydd. Bu farw ei chymar  Edward rai blynyddoedd yn ôl.
   Bu'r angladd ar ddydd Iau yr 16eg o Fawrth gwasanaeth yng ngofal y Ficer yn eglwys Sant Albans a'r gladdedigaeth ym mynwent y Trân Tonyrefail