|
Yn y sgwad. Llongyfarchiadau mawr i Anna Macdonald, Pen y bryn, ar gael ei dewis yn aelod o sgwad hoci Cymru, dan 18 oed. Bydd ganddi lawer gêm o safon uchel iawn o'i blaen yn erbyn tîmau cenedlaethol a dymunwn yn dda iawn iddi wrth iddi waldio'r bêl caled yna dros Gymru!
Symud Tþ Pwy ddwedodd bod symud tþ yn grêt? Nid yr Honeybuns, goelia i! Dymuniadau gorau iddynt serch hynny, yn eu cartref newydd yn 55, Parc y Coed - nid nepell o'r hen gartref rhag ofn i hiraeth eu poeni! Dymuniadau gorau hefyd i Jeff Jones a'r teulu yn eu cartref newydd hwythau ym Mharc Castell y Mynach.
Cydymdeimlad Estynnwn ein cydymdeimlad llwyraf i Morwen a Byron, Rachel a Siân, Parc y Bryn. Bu farw Mrs Morfydd Jones, mam Morwen yn ddiweddar, ar ôl brwydro'n ddewr ac yn siriol. Yn Hen-dy-gwyn-ar-Daf roedd ei chartref ond bu'n derbyn gofal a thynerwch Morwen a'r teulu am y misoedd olaf tra'n glaf.
Llongyfarchiadau! Newyddion grêt! Wel, i Dad a Mam!! Llongyfarchiadau calonnog i Sara Davies, Tþ Siôn, ar sicrhau swydd yn ysgol Gyfun y Bontfaen. Bydd Sara'n cychwyn ar ei gwaith fel athrawes Gymraeg yno ym mis Medi. Aelod newydd i'r Undeb, 'sgwn i ? Ond pa un?! Gwellhad llwyr a buan i wncwl Sara, brawd Roy - sef Ian ap Dewi, a ddioddefodd anafiadau difrifol mewn damwain car nid nepell o'i gartref yn y gorllewin, yn ddiweddar.
Pob Lwc! Sôn am ysgol - wrth ddarllen y rhifyn hwn o Tafod Elái, gawn ni sbario munud neu ddau i feddwl am yr hen blant ( a'u rhieni!) sy'n wynebu treialon TGAU ac uwch y misoedd yma? Lwc dda i chwi oll, gwnewch eich gorau, a
|
|