Rygbi

Bu tîmau ieuenctid Pentyrch yn llwyddiannus iawn yng ngwyl rygbi Avon ddydd Sul, Ebrill 30ain, ar gaeau Hicks, Batheaston, Bath. Aed a 6 o dimau o glwb Pentyrch i'r gystadleuaeth - dan 7, 8, 9, 10, 11 a than 12, ac fe gafwyd rygbi o safon uchel iawn. Roedd yna dîmau o Frome, Chippenham, Cleve, Wellington, Brockworth, Avon, Panthers a Pumas a Farnborough - ac fe chwaraewyd o leiaf pedair gem gan bob tîm. Ar wahoddiad yr aeth clwb Pentyrch yno - ond ar ôl y canlyniadau ysgubol, mae 'na bosibilrwydd na chant eu gwahodd yno eto! Llongyfarchiadau calonnog i'r tîmau dan 9, a than 12 a ddaeth yn bencampwyr! I'r tîmau dan 10 a than 11 a ddaeth yn ail yn eu grwpiau hwythau - ac i dîmau dan 7 a than 8 a gyrhaeddodd y rowndiau cynderfynol. Mae dyled y bechgyn yn fawr i'w hyfforddwyr diflino am eu paratoi mor ofalus drwy'r tymor.

Da iawn fechgyn! Hoe fach nawr tan y tymor newydd.


Pencampwyr y Flwyddyn

Roedd yna gryn gyffro yn noson wobrwyo y Clwb Rygbi ym Mhentyrch yn ddiweddar a hithau'n ben tymor, gyda Geraint P. Lewis, Emyr Lewis a Spencer John yn wþr gwadd - cyflwynwyd tlysau i'r holl chwaraewyr ifainc oedd wedi cyfrannu i lwyddiant y tîmau dros y tymor diwethaf. Dyfarnwyd Jonathan Thomas, 2,Llys Gwynno yn 'Chwaraewr y Flwyddyn' i'r tîm

dan 15 oed, a'i gymydog bach, Morgan Rhys Williams a enillodd y cwpan a'r teitl 'Chwaraewr y Flwyddyn' i'r tîm dan 9 oed! Da iawn nhw! Sêr i'w gwylio yn y dyfodol, gobeithio!


Un i'w wylio

Llongyfarchiadau i Gethin Davies, Parc Castell y Mynach - un o sêr sgwad rygbi Pentyrch, ar gael ei ddewis i chwarae i dîm y 'district', sy'n golygu trip i'r Barri bob nos Wener i Gareth neu Sylvia, er mwyn i Gethin gael ymarfer ar y cyd efo'i gyd-aelodau o dîm ardalwyr Caerdydd a'r Fro. Pob llwyddiant iddo i'r dyfodol - a chofia Gethin bod d'angen di ar Bentyrch hefyd.

Pencampwr ffensio

Mae Rhys Cook, Dol y Felin yn gwneud enw iddo ef ei hun mewn camp go arbennig, ac yntau ond yn naw mlwydd oed! Ffensio ydy diddordeb Rhys,a dim ond deunaw mis yn ôl y dechreuodd Rhys ar y gamp, felly gwnaeth yn wych i ddod yn ail ym mhencampwriaethau Cymru i ddechreuwyr o fewn tri mis yn unig.Mae Rhys yn ymarfer bob nos Wener yng Nghanolfan Chwaraeon Cymru, Caerdydd ac ym mis Mawrth fe lwyddodd e i fynd un cam ymhellach - trwy ennill y bencampwriaeth! Yn ogystal ag ennill pencampwriaeth Cymru i ddechreuwyr - ar ddechrau'r flwyddyn, daeth yn ail ym mhencampwriaethau ieuenctid Cymru dan 10 oed! Gwych iawn! Dal ati, Rhys - dilynwn dy yrfa gyda brwdfrydedd.

CREIGIAU


Gohebydd Lleol: Nia Williams

5


Tîm buddugol dan 9 gyda rhai o fechgyn ysgol Creigiau -

Mathew Phillips, Rhys Jones a Morgan Rhys gyda'u hyfforddwyr Aled Phillips a Dave Edwards

Jonathan Thomas a Morgan Rhys Williams - Chwaraewyr y Flwyddyn' - dan 15 a than 9

Tudalen Nesaf >

Rhys Cook gyda'i fedal aur

Croeso

Llongyfarchiadau i Geraint a Ceri, 8, y Teras, ar enedigaeth Gruffydd Vaughan ym mis Ebrill. Cyrhaeddodd Gruffydd ychydig yn gynnar - ond erbyn hyn mae e'n llond ei groen ac yn barod am Eisteddfod yr Urdd!