|
Grant Arbennig i Dîm Gofal Plant Menter Iaith Mae adran Gofal Plant Menter Iaith Rhondda Cynon Taf wedi bod yn llwyddiannus mewn derbyn grant o £865 oddi wrth Cist Cymunedol Rhondda Cynon Taf ar ran SPORTLOT. Fe gaiff yr arian ei ddefnyddio er mwyn hyfforddi 17 o staff Clybiau Carco y Fenter i wneud y dystysgrif `Arweinydd Chwaraeon' . Mae Trystan Griffiths Cydlynydd Gofal Plant y Fenter oedd wedi diogelu'r arian ac sydd yn gyn aelod o dîm nofio carfan Cymru yn hynod o falch am fod y dystysgrif yn cael ei gydnabod gan Gyngor Chwaraeon Cymru. "Mae llwyddiant y Fenter yn y maes gofal Plant yn mynd o nerth i nerth diolch i'r tîm profiadol o staff sydd â chymwysterau addas. Fe fydd yr hyfforddiant yma yn rhoi mwy na digon o hyder i'r staff gyflwyno mwy o weithgareddau chwaraeon i"r plant." Fe fydd y staff yn cael eu hyfforddi gan Tracey Tylor a Sue Haskins, Swyddogion Datblygu Chwaraeon y Cyngor. Dylai'r staff fod yn gymwys erbyn Cynlluniau Gofal/Chwarae yr Haf. |
|
Mega i'r gweithdy i siarad gyda'r criw ynglyn â'i profiad o fod yn rhan o boi band cyntaf Cymru. Clwb Ieuenctid Pontypridd Mae CIC ar y cyd gyda'r YMCA wedi agor clwb ieuenctid Cymraeg yn adeilad y YMCA ym Mhontypridd. Mae ar agor ar gyfer disgyblion blynyddoedd 7, 8 a 9. Mae'r clwb yn agor pob nos Iau, 7pm-9pm. Pris mynediad yw 50c yn unig. |
|
Trip Alton Towers Ar 25 Ebrill, aeth dros 180 o ddisgyblion blynyddoedd 9& 10 ysgolion Cymer, Llanhari, Rhydfelen a Rhydywaun ar drip i Alton Towers. Roedd yn drip llwyddiannus iawn ac roedd pawb wedi mwynhau yn fawr iawn. Roedd yn wych i weld disgyblion o'r ysgolion gwahanol yn cymysgu ac rydym yn gobeithio trefnu trip tebyg yn ystod y misoedd nesaf ar gyfer blynyddoedd 7&8. GIG 16+ Ar 20 Ebrill trefnwyd gig ar y cyd rhwng Yr Urddaholics a CIC yng Nghlwb y Great Western, Pontypridd. Yn perfformio yr oedd Ashokan, Tango, Grace Brown a DJ Alwyn. Roedd dros 250 yn bresennol a gobeithiwn y gallwn gynnal gig lwyddiannus arall yn ystod gwyl Parti Ponty. Cefnogwyd y gig yma gan Celfyddydau Rhondda Cynon Taf. Cwrs Dawnsio Trefnwyd cwrs dawnsio gan CIC yng Nghanolfan Ffitrwydd y Misgin Manor ar 26 Ebrill. Eleri John, dawnswraig proffesiynol o Abertawe a oedd yn cynnal y cwrs. Roedd 15 yn bresennol o ysgolion Llanhari, Rhydfelen a'r Cymer. Daeth Rhydian a Tristan o'r band |
|
|
|
6 |
|
Disgyblion o Glwb Carco Ysgol Gymraeg Abercynon O'r chwith i'r dde: Leanne Dennig - Cynorthwydd y Clwb Tracey Tylor - Swyddog Datblygu Chwaraeon y Cyngor Trystan Griffiths - Cydlynydd Gofal Plant y Fenter Judith Roberts - Arweinydd y Clwb. Siân Williams - Cynorthwy-ydd y Clwb |
|
Rhydian a Tristan o'r grðp Mega yn y Cwrs Dawnsio |
|
MUDIADAU IEUENCTID CYMRAEG YN UNO I GYNNAL WYTHNOS O WEITHGAREDDAU LLWYDDIANNUS! |

