|
Capel y Tabernacl Yn ddiweddar bu'r pentre yn byrlymu gyda gweithgareddau Cymorth Cristnogol. Y bwriad a'r gobaith oedd casglu swm sylweddol o arian i'r achos. Trefn Oedfaon Mehefin 6 Cymun Parch Eirian Rees Mehefin 11 Euros Jones Evans, Cwmtwrch Mehefin 18 Geraint Rees gyda help plant Efail Isaf Mehefin 25 Moliant Cân a Mawl gyda barbeciw yn dilyn. |
|
Teulu Twm Daeth hi'n amser unwaith eto i godi arian i apêl Cymorth Cristnogol. Beth oedd Teulu Twm am wneud y tro hwn? Yn syml, cariwyd 300 litr o ddðr dros bellter o 600 milltir i ben y Garth. Yn sicr bu'n waith caled a blinedig ond gwerth chweil i'r criw o 35 a ymunodd yn y gweithgaredd. Nodwyd gan un, "Jiw, mae hwn yn waith caled, y peth anhygoel yw fod hwn yn dasg ddyddiol i gymaint o deuluoedd y trydydd byd". Er y gwaith caled cafwyd llawer o hwyl, trochwyd nifer o dreinyrs glân mewn mwd ond ni chollwyd neb ar ben y Garth. Wedi llond bol o Chinese, gweld nifer o ffilmiau a diffyg cwsg codwyd am 5.30 y bore i gwblhau y gwaith caled. "Dewch yn eich blaenau 'da ni fod yn Neuadd Dewi Sant ar gyfer Sul yr Urdd" oedd y floedd ar ben y Garth am 10am. Do wir, llwyddwyd i gwblhau y dasg a chyrraedd Neuadd Dewi Sant ychydig o funudau'n hwyr. Codwyd bron i £2,000 a £1,000 yn ychwanegol mewn casgliad ar ôl gwasanaeth Sul yr Urdd. Diolch i bawb am eu cyfraniadau i'r diwrnod llwyddiannus. |
|
EFAIL ISAF Gohebydd Lleol: Pat Edmunds |
|
|
|
12 |
|
Swydd Newydd Llongyfarchiadau a phob lwc i Heulyn Rees yn ei swydd newydd gyda'r Urddaholics. Bydd yn gyfrifol am blant 15 - 25 mlwydd oed yn Rhanbarth y De Ddwyrain. Hefyd estynnwn ein llongyfarchiadau i'w wraig, Catrin a dymunwn yn dda iddi hithau hefyd yn ei swydd newydd. Mae wedi ei phenodi i staff Ysgol Gymraeg y Castell, Caerffili. Cydymdeimlad Estynnwn ein cydymdeimlad llwyraf â Doreen Hughes, Penywaun. Yn ddiweddar ag yn sydyn iawn bu farw ei mab yng nghyfraith yn Nyfnaint. Mae ein cydymdeimlad hefyd yn estyn i'w merch Carolyn a'r ddau blentyn bach. Perfformiad Gwych Er colli oedd hanes Ysgol Gyfun Llanhari yng ngêm derfynol Adran Gyntaf LloydsTSB cafwyd perfformiad gwych gan y tîm, llawn menter, pwrpas a chyffro. Seren y gêm i ni oedd Gareth Ayres a chwaraeodd rhan ddylanwadol iawn ym mherfformiad ei dîm gan sgorio cais arbennig. Llongyfarchiadau iddo fe a'i dîm gan ddymuno pob llwyddiant iddynt yn y dyfodol. Symud Tþ Dymuniadau gorau i Gwion Rees yn ei dþ newydd. Mae wedi symud nepell o'r pentref i fyw yn Westglade, Llanilltud Faerdref. Gobeithio iddo ymgartrefu yno'n fuan iawn. Actores Llongyfarchiadau mawr i Kate Jarman ar ei pherfformiad coeth yn "Nice Girls" - drama'r BBC. Roedd Kate yn arfer byw yn Efail Isaf ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Garth Olwg ac Ysgol Gyfun Llanhari. Mae ar hyn o bryd yn fyfyrwraig yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd. Pob llwyddiant yn y dyfodol.
|
|
Dathlu 50 Mlynedd o Addysg Gymraeg Cyffro yn y Cwm Drama Gerdd Hanes blwyddyn ym mywyd Ysgol Gymraeg 10 - 12 Gorffennaf Neuadd Parc a Dar Treorci Tocynnau 01443 772432 |

|
Criw Teulu Twm yn barod i gario dðr i ben y Garth |
