MIL O BUNNOEDD

Llongyfarchiadau i ferched y dosbarth gwnïo a fu wrthi yn gweu teganau i ddal wyau Pasg a'u gwerthu er budd Ysbyty Felindre, ac o ganlyniad i'w hymdrechion cyflwynwyd siec o £1,000 i'r ysbyty. Mae'r merched am ddiolch yn fawr iawn i'w ffrindiau a fu mor garedig yn gwerthu'r wyau yn enwedig Mrs Geunor Evans a Mrs Elaine Moore a chwmni Eagle Star. Diolch yn fawr hefyd i'r bobl oedd mor barod i brynu. Da iawn wir ferched - £756 amser Nadolig a £1,000 amser Pasg.


GWOBR ARBENNIG

Derbyniodd 'y 'Spartans' wobr arbennig gan Gadeirydd Cyngor Bwrdeistref Penybont am eu cyfraniad i'r gymuned wrth beintio'r Neuadd Gymunedol yn Nhre Ifan yn ddiweddar. Derbyniwyd y wobr gan Allan Bunston ar ran y Spartans. Llongyfarchiadau iddynt a diolch am ddangos nad yw ysbryd brawdgarol y cymoedd wedi llwyr ddiflannu.


ARDDANGOS PANELI

Yn ystod y gaeaf bu grðp o bobl yn cyfarfod dan nawdd y Fforwm Dysgu Teuluol a'r nod oedd llunio paneli i ddangos Gilfach 'slawer dydd a nawr. Roedd yn bwysig fod y grðp yn cynrychioli pob oedran Yr arweinydd oedd Angela Heath o Celfyddydau Cymunedol Rhondda Cynon Taf.

   Gwnaed apêl ar i bobl y cwm ddod â hen luniau neu arteffactau oedd yn eu meddiant er mwyn tynnu llun ohonynt â chamera digidol. Doedd dim perygl i'r trysorau fynd ar goll gan fod y perchennog yn eu cael yn ôl yn syth. Yna trosglwyddwyd y lluniau a'u trefnu gyda sylwadau ar gyfrifiadur er mwyn cynhyrchu'r paneli. Gofynnwyd i'r bobl ifanc fynd o gwmpas y lle i dynnu lluniau oedd yn dangos Gilfach heddiw.

   Trefnwyd cyfarfod arbennig Nos Fawrth Mehefin l3eg pryd yr agorwyd yr arddangosfa yn y

3

GILFACH GOCH


Gohebydd Lleol: Betsi Griffiths

Y Grðp a fu'n casglu hanes yr ardal

Bnawn Sul, Gorffennaf 23ain bydd aelodau Bethlehem, Gwaelod y Garth yn mynegi eu diolch am wasanaeth y Parchedig Ddr T. J Davies yn ystod ei gyfnod fel eu gweinidog. Oherwydd ei bwl o waeledd cyn y Nadolig ac yn nechrau'r flwyddyn bu'n rhaid gohirio trefniadau blaenorol oedd wedi eu bwriadu i gyd-fynd â'i ymddeoliad. Da gallu cofnodi ei fod ers tro bellach wedi cryfhau digon i fynychu cyfarfodydd ac oedfaon - ac yn edrych mor sbriws ac erioed!

Rhag ofn fod rhai o gyn aelodau Bethlehem â'u bryd ar ymuno â'r achlysur, gofalwch fod yno erbyn 5.00 y pnawn Sul dan sylw. Fel byddech chi'n disgwyl, i wr sydd heb fod yn or-hoff o ffws a seremoni, cyfarfod cartrefol a syml sydd ar y gweill - ond un lle gall yr eglwys fynegi ei gwerthfawrogiad o'i arweiniad a'i genadwri ar hyd y blynyddoedd.

Cyfarfod Ffarwelio â "T. J."

Tudalen Nesaf >

Ganolfan Dydd gan Beverley Podd o'r Fforwm Dysgu Teuluol. Bydd yr Arddangosfa yn symud ymlaen i Neuadd Gymuned Tre Ifan ac yna i'r Ganolfan Hanes ym Mhontypridd ac wedyn i'r Amgueddfa yn Sain Ffagan.

Aelodau'r grðp oedd Megan Wilkinson, Doreen Mc Cann, Ruth a Wyndham James, Lisa Westlake, Leanne Jones, Trevor Wicks a Neil James. Cyflwynodd Mr Bill Philips dystysgrif i bob un ohonynt. Mae'r paneli yn ardderchog ac yn werth i'w gweld.