roedd modd i'r plant fanteisio ar y Ffair Haf ac mi wnaethant gymryd rhan mewn cystadleuaeth gwneud Bwgan Brain!  Daeth y Bwganod i'r oedfa yn y Capel ar y bore dydd Sul gyda'r plant wrth iddynt ddychwelyd ar ôl penwythnos â lot o hwyl a dim lot o gwsg!  Diolch i swyddogion yr Ysgol Sul am y trefniadau gwych - roedd hyd yn oed y tywydd yn wych y penwythnos hwnnw!



CWRS LLINYNNOL


Yr un penwythnos aeth dwy o gerddorion yr ardal ar gwrs i Ogwr.  Cymerodd Mia James ac Eleri Tudor ran mewn cyngerdd i gloi'r penwythnos, y ddwy'n canu'r ffidil yn y gerddorfa i gynulleidfa o rieni a ffrindiau.



CODI ARIAN


Bu llawer o blant ifanc Llantrisant yn codi arian i elusen Cancr MacMillan yn ddiweddar.  Trefnodd cangen y Brownies daith gerdded mewn gwisg ffansi yn yr hen dref ac roedd yn rhaid iddynt gerdded  o amgylch adfeilion y Castell am filltir.  Codwyd swm go dda ar gyfer yr elusen ac mi gafodd y plant hwyl yn ei amrywiol wisgoedd.

Dosbarth 2

Thema Dosbarth 2 yw ' Hwyl a Sbri'. Fe fuon ni yn tyfu ffa a Blodau'r Haul.

   Cawsom wibdaith i lan y môr yng nghanol y glaw! Roedd storïau'r plantos yn hollol wahanol-dim ond sôn am be welsom ni yn y glaw.

   Bu P.C. Jeffreys a Bobi yn ein gweld. Da yw gweld fod Bobi yn trio ei orau glas i ddysgu Cymraeg.

   Byddwn yn ymweld â Chanolfan Hamdden Tonyrefail  yn fuan i chwarae gyda'r teganau mawr meddal.

   Uchafbwynt y tymor fydd ymweliad gan Derfel, y jyglwr, o syrcas go iawn. Efallai y bydd hyn yn codi awydd ar un o blant Dosbarth 2 i ymuno â'r syrcas.

LLONGYFARCHIADAU


Mae Gwenllian Willis, Y Groesfaen, newydd raddio o Brifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan. Enillodd radd IIi er anrhydedd yn y Gymraeg - llongyfarchiadau mawr.



CROESO NÔL


Dychwelodd Elen Roberts, Maes-yr-Haul  o Awstria yn ddiweddar.  Treuliodd flwyddyn yno fel rhan o'i gradd ac mi fydd yn mynd yn ôl i Aberystwyth yn yr Hydref ar gyfer ei phedwaredd flwyddyn.  Mae'n siwr iddi gael llawer o brofiadau diddorol a bythgofiadwy tra'n gweithio dramor.



LLYWODRAETHWYR Y.G.G.LLANTRISANT


Llongyfarchiadau i Mrs Wendy Greaves sydd newydd gael ei hethol i Fwrdd Llywodraethol Ysgol Gynradd Gymraeg Llantrisant fel un o gynrychiolwyr y rhieni.  Mae gan Wendy ddau o blant yn yr ysgol ac mae hi wedi dysgu siarad Cymraeg yn rhugl. Mae'n cymryd lle Mr Chris Dunstall - diolch iddo ef am ei gyfraniad dros y blynyddoedd diwethaf.



FFERM AMELIA


Bu rhai o blant yr ardal yn cael hwyl ar Fferm Amelia, ger Llancarfan yn ddiweddar.  Trefnwyd y penwythnos gan Ysgol Sul Eglwys y Tabernacl, Efail Isaf, ac fel mae'n digwydd roedd yn cyd-ddigwydd â Ffair Haf y fferm.  Trefnodd y rhieni oedd yno gyda'r plant amrywiol weithgareddau a mwynhaodd Catrin Evans, Iolo James, Gwenan Evans a Gerwyn White bethau  fel cwis, helfa drysor, gemau yn y goedwig a chwaraeon ar y cae. Yn ogystal

LLANTRISANT


Gohebydd Lleol: Siân Evans


4

Sam Tân

Bu Mr Hefin Gruffydd ar brofiad gwaith gyda Brigâd Dân De Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddar, nid yn diffodd tanau ond yn cyfrannu tuag at baratoi adnoddau i athrawon i'w gosod ar Safle We y Gwasanaeth Tân.


Beti Treharne

Ar ddiwedd y tymor bydd Mrs Beti Treharne yn ymddeol ar ôl gwasanaeth o ddwy flynedd ar bymtheg i'r ysgol. Bydd colled fawr ar ei hôl ond dymunwn bob hapusrwydd iddi i'r dyfodol.


Y Gymdeithas Rhieni - Ras Hwyaid

Cynhaliwyd ras hwyaid ar yr Afon Clun i godi arian i'r ysgol. Cafwyd prynhawn Sul hwyliog a chodwyd dros £800 i goffrau'r ysgol.


Dathlu Addysg Gymraeg

Cyfrannodd yr ysgol drwy berfformio nifer o eitemau at ddiwrnod dathlu addysg Gymraeg yng Nghanolfan Hamdden Llantrisant.


Sioe Guto

Perfformiwyd y sioe uchod i ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6. Cafwyd cyflwyniad byw a chyffrous o hanes Guto Nyth Bran.


Ymweliad gan feddyg

Daeth Dr Mair Hopkin unwaith yn rhagor ar ymweliad â'r ysgol i siarad am y galon ac am ficro-organebau. Diolchwn iddi yn fawr iawn.


Dosbarth 6

Bu dosbarth 6 am dro o gwmpas Llantrisant gyda P.C Hughes. Soniwyd am beryglon i gerddwyr.


Ffair Haf

Cynhaliwyd ein ffair haf ar fferm Mr a Mrs Owen Hopkin. Trefnwyd gweithgareddau di-ri a chafwyd diwrnod hwyliog iawn.


YSGOL GYMRAEG LLANTRISANT

Tudalen Nesaf >