Apêl Offerynnau Cerddorol



Ffliwt, trombôn, trwmped, clarinet, telyn . . .  A oes gennych chi un o'r rhain yn gorwedd yn segur yn yr atig? Byddai Ysgol Gyfun Llanhari yn awyddus iawn i glywed am unrhywun fyddai falle'n ddigon hael i roi unrhyw offerynnau felly i'r ysgol (neu o bosib rhoi benthyg offeryn a threfnir yswiriant gan yr ysgol) fel y gall plant Blwyddyn 7 gael tro ar offeryn cyn prynu un eu hunain.


   Ffoniwch Mr Peter Griffiths neu Miss Heledd Hall cyn diwedd y tymor neu ar ddechrau tymor yr Hydref (01443 237824) os gallwch chi ein helpu ni.

EISTEDDFOD YR URDD

Fe fu'r ysgol yn cystadlu yn Eisteddfod Bro Conwy mewn 18 cystadleuaeth. Ar y dydd Iau cawsant lwyddiant gyda Can Roc a Can Gyfoes gyda Aneurin Barnard yn canu ac aelodau eraill o''r band - Lloyd Breeze, Thomas Pritchard a Mariane Edwards yn ei gefnogi.

   Ar y llwyfan yr un diwrnod daeth ein Parti Cân Actol ni yn ail i barti Glanaethwy.

   Yn anffodus ar ôl ymarfer caled ni lwyddodd neb i gyrraedd y llwyfan ar y dydd Gwener.


ATHLETAU

Bu'r ysgol yn cystadlu yng nghystadleuaeth athletau TSB ar y 12ed o Fehefin. Daeth bechgyn bl 9 a 10 yn 3ydd a bechgyn bl 7 ac 8 yn 4ydd.

   Daeth merched blwyddyn 9 a 10 yn ail a merched blwyddyn 7 yn 5ed.

   Bu saith ysgol yn cystadlu.


DYLUNIWR

Yn ddiweddar bu Huw ap Rhys yn cynrychioli'r ysgol yn ffeinals Morgannwg Ganol cystadleuaeth menter newydd i fyfyrwyr Cymru 2000 ym Mhenybont, ac roedd yn un o bedwar lwcus gafodd eu dewis i fynd i'r rownd nesaf a fydd yn cael ei gynnal ym Mharc Margam ym mis Hydref. Roedd Huw wedi dylunio canolfan ddringo gan ddefnyddio chwarel Creigiau fel lleoliad.

Grwp Roc yr Ysgol yn canu yn Nghanolfan Llantrisant

Y Gân Actol

Huw ap Rhys (Llun: Y Western Mail)

Tudalen Nesaf >

Ysgol Gyfun Llanhari