|
2 |
|
|
|
tafod elái |
|
GOLYGYDD Penri Williams 029 20890040 LLUNIAU D. J. Davies 01443 671327 CHWARAEON Martin Huws 029 20811413 ERTHYGLAU Dafydd Huws HYSBYSEBION David Knight 029 20891353 DOSBARTHU John James 01443 205196 TRYSORYDD Elgan Lloyd 029 20842115 CYHOEDDUSRWYDD Colin Williams 029 20890979 |
|
Argraffwyr: Gwasg Morgannwg Uned 27, Ystad Ddiwydiannol Mynachlog Nedd Castell Nedd SA10 7DR Ffôn: 01792 815152 |


|
Cyhoeddir y rhifyn nesaf ar y 2il Hydref Erthyglau a straeon i gyrraedd erbyn 19 Medi 2000 Y Golygydd Hendre 4 Pantbach Pentyrch CF15 9TG Ffôn: 029 20890040 Tafod Elái ar y wê http://www.tafelai.com e-bost pentyrch@tesco.net |
|
Twmpath Dawns gyda Jac y Do 8.00 Nos Wener 6 Hydref yn Neuadd Dowlais Manylion: 029 20890101 |


|
15edGwyl Ddrama Tafod Elai Neuadd Dowlais, Llanilltud Faerdref Drama Oedolion a Ieuenctid Pantomeim - Noson Lawen/Rifiw 23 - 26 Tachwedd 2000 am 7.00 bob nos. Os ydych am gystadlu ffoniwch 029 20890979 |
|
Mi fydd ffurflenni Cyfrifiad 2001 yn cael eu dosbarthu i bob tþ yn y Deyrnas Gyfunol y flwyddyn nesaf. Tra bydd modd i bobl yn yr Alban ddynodi mai Albanwyr ydynt ni fydd modd i bobl yng Nghymru ddynodi mai Cymru ydynt. Mae'n amlwg nad ydy'r swyddfa'r cyfrifiad mewn cyswllt â'r datblygiadau sydd wedi digwydd yng Nghymru yn ddiweddar ac mae'r ffurflen bresennol yn hollol annerbyniol. Yn yr Alban fe fydd yna flwch arbennig i bobl nodi mai Albanwyr ydyn, tra yng Nghymru mi fydd yna amryw o flychau ar gyfer dynodi amryw grwpiau ethnig gan gynnwys Gwyddelig ond nid Cymreig! Mae'n hollol wirion i feddwl na fydd modd i bobl yng Nghymru nodi mai Cymry ydynt. Gwahoddir y sawl sydd am ddisgrifio'u hunain fel Cymry neu Saeson i ddefnyddio'r term "Prydeinig" neu "Arall". Gan fod y ddarpariaeth ar gyfer disgrifio eich hun fel Cymro/Cymraes yn gwbl annigonol mi fydd yn rhaid i bobl yng Nghymru wneud un o dri pheth 1. Disgrifio'u hunain fel Prydeinwyr (neu fel pobl sy'b perthyn i un o amryw grwpiau ethnig) 2. Ysgrifennu Cymro/Cymraes yn y blwch "Arall", yn y modd mae'r Swyddfa Ystadegau Genedlaethol wedi eu gwahodd i'w wneud. 3. Cynddeiriogi at y ffaith fod eu hunaniaeth Gymreig yn cael ei anwybyddu a gwrthod llenwi'r ffurflen. |
|
Pa bynnag drywydd a ddewisir mi fydd hi'n amhosib casglu gwybodaeth gywir ynglþn â'r niferoedd o bobl yn y DG sy'n cyfrif eu hunain yn Gymry, felly mi fydd dilysrwydd ystadegol y cyfrifiad wedi ei danseilio. Yn yr un modd, dylai'r ffurflen ddarparu lle i'r rhai sy'n medru'r Gymraeg ym mhob rhan o'r DG i nodi eu bod yn medru'r iaith. Dyma'r unig ffordd i sicrhau gwybodaeth ddilys ynglþn â'r nifer o siaradwyr Cymraeg ac mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi bod yn galw am hyn ers 1991. Yn syml iawn ffolineb llwyr yw arfer y disgrifiad "Prydeinig" ar gyfer Lloegr a Chymru yn unig gan wahaniaethu yn yr Alban ac mae'r ffaith nad oes modd i bobl sy'n cyfrif eu hunain yn Gymry i nodi hynny yn sarhad llwyr. Mae angen newid y ffurflenni cyn eu dosbarthu y flwyddyn nesaf neu mi fydd yna gryn arian wedi ei wastraffu ar Gyfrifiad nad sydd yn gwbl berthnasol i'r DG yn sgil Datganoli. |
|
Angen Newid Ffurflenni Cyfrifiad 2001 |
|
CLWB Y DWRLYN |