|
CYFRIFIADURON AM DDIM ER MWYN HYBU SGILIAU E-FUSNES MEWN YSGOLION Caiff pob ysgol uwchradd yng Nghymru gynnig cyfrifiadur amlgyfrwng am ddim fel rhan o raglen i helpu myfyrwyr i feithrin sgiliau e-fusnes. Mae'r cynnig yn rhan o fenter a lansiwyd gan Gymdeithas Gwybodaeth Cymru Awdurdod Datblygu Cymru ar y cyd â Menter yr Ifanc Cymru. Cynllunnir y fenter i adeiladu ar y rhaglenni cyfredol a gynhelir gan Fenter yr Ifanc Cymru, sy'n anelu at hyrwyddo sgiliau entrepreneuraidd drwy sefydlu mentrau busnes mewn ysgolion. I dderbyn cynnig y WDA, mae'n rhaid i ysgolion gymryd rhan yng Nghynllun Menter yr Ifanc. Ar hyn o bryd, mae 68 y cant o ysgolion Cymru yn cymryd rhan yn y cynllun. Mae'r fenter newydd yn ceisio codi'r ffigwr hon i 85 y cant. Dywedodd Brian Willott, prif weithredwr y WDA, wrth gyhoeddi'r cynllun: "Gobeithio bydd y fenter hon yn ysgogi myfyrwyr ysgolion uwchradd yng Nghymru i gymhwyso eu gallu creadigol i ddysgu am e-fusnes sy'n mynd i fod yn rhan annatod o lwyddiant Cymru yn y dyfodol." Bydd y pecyn - sef cyfrifiadur hollol fodern, ynghyd â meddalwedd ategol, argraffydd lliw a chamera'r wê - yn galluogi i dîmau ysgol greu cwmnïau e-fusnes mwy realistig ac ymgorffori cymwysiadau megis creu tudalen ar y we, a chyhoeddi pen desg. Er mwyn annog y myfyrwyr sy'n cymryd rhan i ddefnyddio'r offer cyfrifiadurol newydd yn greadigol, bydd y WDA yn noddi gwobrau ar gyfer y defnydd gorau o dechnoleg gwybodaeth yn rhaglen Menter yr Ifanc Cymru, a chaiff cystadleuaeth e-fusnes newydd a gefnogir gan y WDA ei chyflwyno yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf. Bydd rhoi'r un cyfluniad o dechnoleg gyfrifiadurol i bob ysgol uwchradd yng Nghymru yn creu sail gyfartal ar gyfer cystadleuaeth deg a chyffrous. Ceir rhagor o wybodaeth oddi wrth Ken Howard, Canolfan QED, Trefforest. 01443 845817. ken.howard@wda.co.uk |
|
3 |
|
Dosbarthiadau Dysgu Cymraeg Nos Lun, 13 Medi. Safon 1, 2, 5/6 Nos Iau, 16 Med. Safon 3, 4 7.30 - 9.00 pm Manylion pellach: 01443 842008. |

|
Interlink a Menter Iaith Fforwm Cymraeg Rhondda Cynon Taf Arian Amcan 1 Sut fydd yr arian yn cyrraedd ein cymunedau? A fydd hi'n bosibl i fudiadau bach elwa arno? Sut i fod yn rhan o'r cynllunio yn Rhondda Cynon Taf. Siaradwyr gwadd Elwyn Vaughan Pwyllgor Monitro Amcan 1 Steffan Webb Partneriaeth adnewyddu Strategol Rhondda Cynon Taf Medi 18 am 2pm Swyddfeydd Interlink, Pontypridd |
|
Ar y Wê Dyma rai safleoedd defnyddiol a diddorol www.gwales.com - eich allwedd i lyfrau Cymru www.sgwrs.org.uk - safle i sgwrsio yn Gymraeg ar gyfer ysgolion cynradd www.menteriaith.co.uk - Menter Iaith Rhondda Cynon Taf. www.tafelai.com - y papur bro Tafod Elái a mudiadau Cymraeg yr ardal www.urdd.org - Urdd Gobaith Cymru www.bwrdd-yr-iaith.org.uk www.ylolfa.com www.cymru.gov.uk - Cynulliad Cenedlaethol Cymru Oes gennych chi hoff safle Cymraeg? Rhowch wybod i - pentyrch@tesco.net |
|
OWAIN GLYNDWR Uchelwr Cymreig oedd Owain Glyn Dðr, perchen tiroedd yng Nglyndyfrdwy a Chynllaith yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac yn Iscoed yn y gorllewin. Fe'i ganed yn y 1350au, yn ôl pob tebyg. Yn 1400, wedi anghydfod rhyngddo a'i gymydog yr Arglwydd Grey o Ruthun, cododd faner gwrthryfel yn erbyn brenin newydd Lloegr, Harri IV, ac yn erbyn llywodraeth ormesol y Saeson yng Nghymru. Ar ddydd Iau, 16 Medi 1400 cyfarfu cwmni yng Nglyndyfrdwy i gyhoeddi Owain yn dywysog Cymru. O dipyn i beth ymledodd y gwrthryfel i'r rhan fwyaf o Gymru. Parhaodd dros nifer o flynyddoedd, gan ddod â llwyddiannau i'r Cymry ar faes y gad ac wrth iddynt feddiannu cestyll Harlech ac Aberystwyth. Sefydlodd Owain ei Lywodraeth ei hun a cheisiodd gynghreiriau ag Iwerddon, yr Alban a Ffrainc, tra oedd coron Lloegr a'r arglwyddi lleol yn colli incwm wrth i'w deiliaid wrthod talu trethi. Er gwaethaf llwyddiannau a chefnogaeth helaeth, methu wnaeth y gwrthryfel, yn rhannol am na allai'r Cymry gynnal eu hachos heb gymorth oddi allan. Aneffeithiol oedd y cymorth milwrol a ddaeth o du Ffrainc, ac roedd tir Cymru wedi'i dlodi a'i anrheithio gan y rhyfel. O 1406 ymlaen dechreuodd ardaloedd cyfain ildio i awdurdod y brenin. Adfeddiannwyd Aberystwyth yn 1408 a Harlech y flwyddyn ganlynol, a derbyniodd llawer o gefnogwyr Owain bardwn brenhinol. Ond daliodd ef heb ildio a diflannodd tua 1415. Dros y blynyddoedd tyfodd myth grymus o'i gwmpas yn symbol o ysbryd cenedlaethol y Cymry. Mae arddangosfa yn darlunio gyrfa Owain Glyndwr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth hyd y 30 Medi 2000. |
|
CLWB Y BONT |