|
Marwolaethau. Mae angau wedi bylchu yn fawr iawn yma yn Nhylcha-wen. Rym wedi colli tri o'n cymdogion yn yr wythnosau diwethaf. Ar yr 16eg bu farw Mr Terry Jones yn 70 oed ag yn byw yn groes i'r ffordd i ni. Bregus iawn oedd iechyd Terry wedi bod yn ystod y deng mlynedd diwethaf ag oedd eisiau gofal mawr arno, er hynny yn annisgwyl oedd y newydd am ei farwolaeth yn 70 oed. Bu yn gweithio yng ngwaith golosg Cwmlai hyd nes i'w iechyd dorri lawr a gorfod ymddeol yn ifanc. Geidw weddw Jean a thri o blant, bachgen a dwy ferch. Tony yw'r hynaf ag yn briod â Yvonne a chanddynt fab sydd wedi graddio yn ddiweddar ym Mhrifysgol Abertawe a merch Cathryn a chanddi fab Ryan sydd yn gwneud y teulu yn bedair cenhedlaeth, Julie yw'r ail ag yn briod â Gareth Laugharne sydd yn heddwas a chanddynt ferch Rhiannon, a'r trydydd Haley yn briod â Hywel Dyer a dim plant eto. Bu'r gwasanaeth angladdol yn amlosgfa Coity a gwasanaethwyd gan y ficer y Parchedig Stephen Ambani ar ddydd Gwener 21ain o fis Gorffennaf. Un arall a gollwyd dau ddrws i fyny oddiwrth deulu Terry sef Mrs Isobel John yn 65 oed. Yn anffodus bu farw wrth gael triniaeth lawfeddygol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar ddydd Mercher 19eg o fis Gorffennaf. Ein cydymdeimlad dwys â Roy ei chymar ers 46 o flynyddoedd a'r ddau fachgen Roderick sydd yn briod a dau o fechgyn ag yn byw yn Nhrebanog a Peter yntau yn byw yn Heol Prichard Tonyrefail sydd hefyd yn briod a chanddynt ddwy ferch. Bu'r angladd ar ddydd Iau 27ain o fis Gorffennaf gwasanaeth teulu yn unig yn y tþ a chyhoeddus yng Nghapel Apostolaidd Trealaw lle mae'r teulu yn aelodau gweithgar o'r Eglwys a Peter yw'r gweinidog. Claddwyd ym Mynwent y Trân Tonyrefail.Gwasanaethwyd gan weinidog Eglwys Apostolaidd y Porth. |
|
Ar nos Sul y30ain o Orffennaf daeth y newydd trist am farwolaeth Mr Garfield Lewis dri drws i fyny oddi wrthym ni yn Nhylcha-wen. Roedd iechyd Garfield wedi bod yn fregus iawn ers sawl blwyddyn gan ddolur y galon, ond roedd wedi bod yn wyrthiol yn ystod y flwyddyn a hanner diwethaf,tan nos Lun 21ain o fis Gorffennaf pryd y cafodd drawiad, ac yn anffodus colli'r frwydr a wnaeth a bu farw o dan ofalaeth Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae Garfield a'i wraig Margaret wedi bod yn aelodau ffyddlon a gweithgar o Eglwys Sant Alban ar fam eglwys Dewi Sant. Geidw weddw Margaret a dwy ferch Vicky a Eddy a'r plant Eleri, Betsan.Owen a Heulwen ag yn byw yn Nhrelech yn Shir Gar a Anne sydd yn briod a Adrian a'r mab Daniel a'r ferch Tamsin. Roedd gan Garfield a Margaret fab hefyd Gareth yn anffodus bu farw drwy ddamwain car wrth fynd i'w waith bymtheng mlynedd yn ôl.Cynhaliwyd y Gwasanaeth angladdol o dan ofal y Ficer Y Parchedig Stephen Ambani yn Eglwys Dewi Sant ar ddydd Llun y 7fed o fis Gorffennaf ac wedyn yn amlosgfa Coity. Pob bendith i'r teuluoedd i gyd. Mae Eglwys Dewi Sant wedi colli aelod gweithgar arall yn ystod mis Gorffennaf sef Mrs Rowena Jones, Heol yr Orsaf, Tonyrefail. Bu Rowena yn athrawes yn Ysgol Gynradd Cwmlai am flynyddoedd. Roedd yn 90eg oed ers mis Rhagfyr diwethaf. Roedd wedi claddu ei gðr ers sawl blwyddyn ac roedd ganddynt ddau fachgen ond yn anffodus bu un ohonynt farw rai blynyddoedd yn ôl. Gwellhad buan i Mrs Marian Crossley Fferm Pantglas. Mae wedi treulio cyfnod yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ag wedi dod adref ag yn teimlo yn well. |
|
YSGOL UWCHRADD TONYREFAIL Dymuniadau gorau i Mr John Parry, Prifathro Ysgol Uwchradd Tonyrefail ar ei ymddeoliad ar ôl dros ugain mlynedd o wasanaeth fel prifathro yn Nhonyrefail ar ôl bod mewn swydd yng Nghastell Nedd. Deugain mlynedd o wasanaeth fel athro. Llongyfarchiadau mawr iddo ar ei anrhydeddu â'r OBE yn ddiweddar ar benblwydd y Frenhines. Llongyfarchiadau mawr i Mr Gareth Burridge ar ei ddewis yn olynydd i Mr Parry a phob llwyddiant iddo yntau hefyd. GRADDIO YN YBRIFYSGOL Llongyfarchiadau mawr i Miss Ceri Anne Jones, Heol Yr Ysgol, Tonyrefail a chyn ddisgybl o Ysgol Gymraeg Tonyrefail ar ennill gradd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe.Diolch i'r teulu am dderbyn Tafod Elái bob mis. Yr un cyfarchion hefyd i Miss Heidi Stevens Prichard St. Tonyrefail, ar ennill gradd anrhydeddus ym Mhrifysgol Morgannwg Pontypridd. CAPEL Y TON Mae un o'n haelodau a'i chymar sef Mr a Mrs John Hunt wedi bod ar daith ar y Trên Dwyreiniol Cyflym, (Orient Express) i Fenis yn yr Eidal, ac wedi cael amser bythgofiadwy, dyheu am fynd eto yn gloi. Mae Mr Dilwyn Llewelyn un o blant Ainon wedi setlo lawr yn dda yng Nghartref Gelliseren.Dywedodd Marion ei chwaer sydd yn aelod gyda ni yng Nghapel Y Ton ei fod yn cael pob chware teg yno. Mae dwy arall o blant Ainon wedi ymgartrefi yno sef Mrs Cassie Entwhistle a'i chwaer Mrs Doris Evans a llawer o ffrindiau o'r Ton. Mae Mrs Gwenny John yn gwella yn raddol ar ôl treulio amser yn yr ysbyty wedi iddi dorri asgwrn yn ei throed. Mae aelodau sydd yn methu dod i'r oedfaon sef Mrs Church, Mrs Mary Williams Llysyrefail a Mrs C. Buck o Tynybryn y tair dros ei nawdegau, yn siðr carent fod yn gallu dod i'r cwrdd bod Sul. |
|
TONYREFAIL Gohebydd Lleol: D.J. Davies |
|
4 |