Tudalen Nesaf >

SEFYDLU
GWEINIDOG


Roedd eglwys Bethlehem, Gwaelod y Garth, dan ei sang bnawn Sadwrn, Medi 23, ar gyfer cyfarfod sefydlu'r Parchedig Gareth Evans Rowlands fel y gweinidog newydd. Mae Gareth wedi dechrau ar ei waith ers dechrau mis Hydref a chyn hyn roedd yn weinidog ar ofalaeth o bum eglwys yng Ngogledd Ceredigion. 
    Llywyddwyd y cyfarfod, yn ei ffordd ddihafal ei hunan, gan y Parchedig Ddr T. J. Davies, cyn-weinidog Bethlehem a da oedd ei weld wedi ei adfer i'w lawn iechyd unwaith eto. Fel y cyfeiriodd, hwn oedd y cyfarfod llawn cyntaf iddo ei arwain o bulpud Bethelehem ers ei waeledd y llynedd.

Cafwyd cyfraniadau hefyd gan y Parchedigion Carys Ann, Peter Thomas a Richard Lewis, i gyd yn gyd-weinidogion yng Nghered-igion. Mr David Parry, Abertridwr, oedd yn croesawu ar ran Cyfundeb Dwyrain Morgannwg, Wynford Ellis Owen yn estyn croeso ar ran Bethlehem, Ifan Roberts, roddodd Hanes yr Alwad gyda Gwenno Huws yn cymryd rhan o'r defosiwn agoriadol. Cafwyd cyfraniadau cerddorol gan blant Bethlehem dan ofal Sioned Mair a Delyth Evans, Côr yr aelodau, eto dan faton

Delyth ac wrth yr organ yr oedd yr Athro (bellach) Peter Thomas. Mae'n syndod fod y to heb godi gan rym y ganiadaeth!   Am yr eildro o fewn deufis, roedd pabell enfawr wedi ei chodi yn yr ardd ger y festri - a da hynny - er mwyn i bawb fedru crwydro allan i'r heulwen gyda'r arlwy oedd wedi ei baratoi gan aelodau'r eglwys. Cyn diwedd y gweithgareddau bu'r ffotograffydd Robin Griffith yn ceisio gosod y swyddogion mewn trefn fel bod cofnod ffurfiol ar gael o'r achlysur.

   Cafwyd teyrngedau brwd a chynnes i Gareth gan ei gyd-fugeiliaid o Geredigion a derbyniwyd nifer fawr o negeseuon gan weinidogion a chyfeillion oedd yn methu bod yn bresennol - i gyd yn dymuno'n dda iddo ef a'r eglwys ar ddechrau ei fugeiliaeth mewn ardal newydd.
   Mae Gareth yn enedigol o Lan Ffestiniog ac yn naturiol yr oedd cynrychiolaeth o gydnabod a theulu wedi dod oddi yno, yn ogystal â thorf o blith ei aelodau yng ngogledd Sir Aberteifi. Roedd nifer dda hefyd yno o'r eglwysi cyfagos.
   Dewisodd y Parchedig Pryderi Llwyd Jones, Aberystwyth, yn ei anerchiad ddilyn trywydd y Maes Llafur i oedolion yr Ysgol Sul am eleni - Hosea, Mica a Marc.


3