|
Rhowch eich barn! Edrychwch allan am bosteri.
Gðyl Rygbi dan 10 ac 11 Pentyrch Cafwyd Gðyl Rygbi lwyddiannus iawn ar gaeau rygbi Parc-y-Dwrlyn, Pentyrch ar ddydd Sul y trydydd o Fedi. Daeth deg o dimau ynghyd, rhai o Orllewin Cymru, eraill dros Bont Hafren, i gystadlu am gwpan her Pentyrch! Wedi cystadlu brwd drwy'r dydd, mewn tywydd rygbi gwych, daeth y tîm dan 11 yn ail yn eu hadran hwy ond gyda chymorth Mathew Phillips, Rhys Jones a Morgan Rhys, enillodd y tîm dan 10 y bencampwriaeth! Da iawn chi, hogie! Diolch yn arbennig i Ken Mills, am ei holl waith trefnu ardderchog a olygai bod pob dim yn rhedeg fel wats. Dechrau da iawn i flwyddyn Gareth Davies, Parc Castell y Mynach yn Gadeirydd. Gobeithio y cant flwyddyn dda!
Teithio'r Byd A ninnau wedi dymuno'n dda i ddwy o ferched ifanc y pentref sydd bellach ym mhen draw'r byd, yn rhifyn diwethaf Tafod Elái - tybed a ddaw Fiona a Siwan ar draws Rwth Ellis-Owen ar eu teithiau? Ar ôl treulio pythefnos yng ngwlad Thai - mae Rwth bellach wedi cyrraedd Awstralia. Mynd yno fel rhan o'i chwrs prifysgol y mae Ruth - i astudio 'Forensic Pathology' am ddau fis, yn ysbyty Westmead yn Sydney - cyn dychwelyd i orffen blwyddyn ola yng ngholeg meddygaeth Caerdydd. Os digwydd i chwi wylio seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd yn Sydney, efallai i chi gael cip ar Rwth - oedd, roedd hi yno! Anfon air atom o hemisphere y de - gyda ychydig o'th hanes, Ruth - a dere adre'n saff.
|
|