3


gwneud enw iddo/iddi'i hun yn Llundain. Do, mi fu Sioned yn perthyn i glits a chyffro sioeau cerdd mwya'r West End - sioeau megis Jesus Christ Superstar.

   Fel gwylwyr S4C rydym yn gyfarwydd iawn a'i gwaith fel cyflwynwraig rhaglenni plant a'i darllediadau o'r 'Steddfod. Mae ganddi hefyd lu o ffans sy'n ei gwylio'n selog ar gyfresi A55 a Glan Hafren.

   Er ei bod yn byw yn ein mysg ac er iddi unwaith, do, ymddangos ar lwyfan yr Ðyl mewn perfformiad digon rhyfedd ond stori arall ydy honno, gallaf eich sicrhau na fydd unrhyw ffafriaeth ac y bydd y doniau a'r rhinweddau hynny rydym yn eu cysylltu â hi'n bresennol yn yr ðyl ddrama eleni.

0'r diwedd mae 'na un sydd yn byw yn ein plith yn feirniad arnom. Mae Sioned Mair yn wyneb a llais cyfarwydd yn yr ardal wedi cytuno i fod yn feirniad ym mhymthegfed Gðyl Ddrama Tafod Elai. Mae hi a'i gðr Russell wedi ymgartrefu ger Ffynnon Taf ac mae eu plant yn ddisgyblion yn Ysgol Gwaelod y Garth.

   Mae rhai ohonom yn ddigon hen ac yn ddigon ffodus i gofio'r hogan ifanc o Sir Fflint yn aelod o grwpiau dylanwadol ein hieuenctid, grwpiau fel Sidan ac Injaroc. Ar ôl gadael Prifysgol Bangor, bwrodd ei phrentisiaeth gyda Chwmni Theatr Cymru. Yna, cawsom i gyd y pleser a'r teimlad hwnnw o falchder a ddaw o hawlio rhan yn llwyddiant unrhyw Gymro neu Gymraes sy'n

15fed Gwyl Ddrama Tafod Elái

Rhaglen yr Wyl Ddrama

Mi gawn sirioldeb ei gwen, ias ei llais yn ogystal â'i didwylledd a'i phroffesiynoldeb.

   Croeso Sioned - gwna dy hun yn gyfforddus yn sedd y beirniad a phaid â bod yn rhy llawdrwm!

Sioned Mair

Ein beirniad ni

Tudalen Nesaf >