DEFNYDDIA DY GYMRAEG

Biliau Trydan, Nwy, Dër, Ffôn, Cyngor Lleol

Swyddfa'r Post, Banciau

Chwilio am Waith

Hawlio Budd-dâl

Treth Incwm

Wrth ddefnyddio'r gwasanaethau hyn gallwch ddefnyddio'r iaith Gymraeg.

Cymerwch fantais

o bob cyfle.

Am ragor o wybodaeth

0845 6076070

Traws-Gwlad

Llongyfarchiadau i'r plant a gymerodd ran yn ras Traws-gwlad yr Urdd eleni ac yn arbennig i dîm Bechgyn Blwyddyn 5 a ddaeth yn fuddugol ac i Joshua Jones a ddaeth yn ail fel unigolyn yn ras Bechgyn Blwyddyn 5.


Athletau

Llongyfarchiadau i'r plant a fu'n cystadlu yn yr athletau yng Nghanolfan Hamdden Llantrisant gan ddod yn ail allan o bedair ysgol.


Llangrannog

Cafwyd gryn hwyl eto eleni yn Llangrannog gan y plant a'r athrawon! Diolch i Mark, Janet, Petra a Heddwen am dreulio'r penwythnos gyda'r plant yn y gwersyll.


Diolchgarwch

Eleni, bu'r plant yn casglu tuag at Barnardo's. Daeth Emma Griffiths, cynrychiolydd o'r elusen i'n Gwasanaeth Diolchgarwch i dderbyn ein rhoddion.


Ymwelydd Iechyd

Braf oedd croesawi Rhiannon Llywelyn i'r ysgol i siarad am fwyta'n iach gyda'r babanod. Roedd y plant wrth eu boddau yn blasu'r ffrwythau a'r llysiau lliwgar.


4

Tìm Bechgyn Blwyddyn 5 Ras Traws-gwlad yr Urdd

DRAMA

Ymwelodd Cwmni Drama 'Hijinks' â'r Gilfach nos Fercher Medi 27ain i berfformio eu drama ddiweddaraf sef 'Tarzanne Queen of the Valleys' gan Greg Cullen. Mae'r cynhyrchiad i fynd ar daith drwy Gymru a Lloegr. Roedd y ddrama yn gafael yn y gynulleidfa a chafwyd noson o fwynhad. Diolch yn fawr i gwmni Hi Jinks. Gobeithio y bydd eu taith eleni mor llwyddiannus â llynedd pan berfformiwyd 'Paul Robeson Knew My Father'. Diolch i Mrs Ros Davis Swyddog Datblygu'r Celfyddydau am drefnu'r noson ac am ddod â drama o safon uchel i'r cwm.


CYNGERDD O FAWL

Mae Mrs Ros Davis gyda Chapeli ac eglwysi Gilfach Goch wedi bod wrthi yn trefnu 'Cyngerdd o Fawl' i ddathlu'r Mileniwm, ar gyfer Nos Iau Tachwedd 9ed yn y Ganolfan Gymdeithasol yn Evanstown. Bydd Canu Cynulleidfaol a chyfraniad gan Gôr Meibion Llantrisant. Bydd Sali Ann Jones yno gyda'i thelyn a'r pianydd fydd Mrs Iris Llewelyn. Cawn gyfle hefyd i glywed grðp newydd o gantorion o'r Gilfach. Felly dewch yn llu i'r Ganolfan Gymdeithasol (Hen Gapel Bethania) i fwynhau noson o Fawl.

YN DDEUGAIN OED

Cynhaliwyd parti arbennig nos Fercher Hydref lleg i ddathlu penblwydd y 'Guild ' yn 40 oed. Sefydlwyd y 'Guild' i ferched y pentref gan y diweddar Miss Katie Pritchard ac mae wedi cyfarfod bob wythnos ers hynny. Roedd y byrddau yn llawn danteithion blasus a chafwyd arddangosfa o hen luniau ac ati i ddwyn i gof gweithgareddau'r merched ar hyd y blynyddoedd. Ym mysg y memorabilia roedd y llieiniau sychu llestri a gafodd eu cynllunio gan Miss Pritchard, un am hen adeiladau'r cwm a'r llall i ddathlu 400 mlwyddiant Beibl William Morgan yn 1988.

   Soniodd Mrs Beti Jones, yr arweinydd presennol, am rai o ddigwyddiadau'r gorffennol a chofiwyd am yr aelodau nad ydynt gyda ni mwyach. Mae'r Guild yn dal i gyfarfod bob nos Fercher ac mae rhywbeth diddorol bob tro.



GILFACH GOCH


Gohebydd Lleol: Betsi Griffiths

Ysgol Castellau

Tudalen Nesaf >