Tudalen Nesaf >

GILFACH GOCH 

Gohebydd Lleol: Betsi Griffiths

TONTEG A PHENTRE'R EGLWYS

Gohebydd Lleol: Helen Jones

DATHLU'R NADOLIG
Bu cymdeithasau a mudiadau'r Gilfach wrthi yn dathlu'r Nadolig yn ôl eu harfer, a chynhaliwyd llawer o giniawau a phartïon ac ati, Gwahoddwyd eglwysi ' r cwm i eglwys Moreia nos Sul Rhagfyr l7ed i Wasanaeth Carolau. Ar derfyn yr oedfa mwynhaodd pawb gwpanaid o de a 'mince pie'.
Ar Noswyl y Nadolig cynhaliwyd Gwasanaeth Plygain i groesawi'r Dydd Sanctaidd yng nghapel Calfaria. Daeth ffrindiau o Moreia a Bethlehem Tonyrefail i ymuno ac i gymeryd rhan yn yr oedfa.

BENDITHIO A DIOLCH
Roedd Nos Galan yn noson arbennig o hapus i ffyddloniaid Eglwys Sant Barnabas gan i Archddeacon Margam Y Gwir Barchedig Martin Williams a'r Deon Gwlad Y Parch Peter Coleman wedi eu cynorthwyo gan y Ficer y Parch Stephen Ambani gynnal Gwasanaeth o Ddiolch ac Adferiad i ailagor a bendithio' r eglwys a fu ar gau ers y tân ym mis Mai. Bu'n rhaid i'r Gynulleidfa addoli yn Neuadd yr Eglwys oherwydd y difrod a wnaed gan y tân. Maent yn ôl yn yr Eglwys yn awr ac am ddiolch o galon i bawb a gyfrannodd mor hael ag a weithiodd mor galed i godi'r arian tuag at adfer yr adeilad.

BADMINTON

Unwaith eto mae Gareth Walters wedi cael dechreuad ardderchog i'r tymor Badminton . Mae Gareth sydd yn l7oed wedi cyrraedd yr 8 olaf ym mhob cystadleuaeth i unigolion yn Lloegr a Ewrop dan 19 oed ac wedi dod o fewn trwch blewyn i'r gêm cyn-derfynol sawl gwaith. Enillodd Gareth Bencampwriaeth Cymru i rai dan 19 oed a chafodd ei wobrwyo mewn cyfarfod arbennig yn y Ganolfan Chwaraeon Cenedlaethol yng Ngerddi Soffia Caerdydd. Trechodd bencampwr Estonia sy'n astudio ym Mangor ar hyn o bryd.
Pob hwyl i Gareth fydd yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Colegau Prydain yn ysgol Millfield, lle cafodd y wobr efydd y llynedd. Bydd yn cynrychioli Coleg Penybont lle mae'n astudio am Ddiploma BTec mewn Gwyddor Chwaraeon. Y flwyddyn nesaf mae'n gobeithio mynd i Goleg U.W.I.C. Caerdydd i barhau gyda'i astudiaethau chwaraeon.

YN GWELLA
Mae'n braf i weld Mike Webb yn cerdded o gwmpas y lle unwaith eto wedi'r llawdriniaeth i'w glun.
Dymuniadau gorau am wellhad buan i Richard Parry, High Street a dorrodd ei goes yn chwarae rygbi dros Gilfach cyn y Nadolig. Mae Richard yn gyn-ddisgybl yn ysgol Llanhari ac wrth ei fodd yn chwarae rygbi.

Ymddeol
Dymuniadau gorau i Meima Morse, Heol yr Eglwys, Tonteg,  sydd wedi ymddeol o'i swydd fel Prifathrawes Ysgol Gymraeg y Bronllwyn. Yn barod mae hi wedi profi pleserau tywydd braf yr Ynysoedd Dedwydd a nawr mae hi'n cynorthwyo ym mywyd ardal Llangeithio yn ogystal â'r ardal hon.

Ysgol Gymraeg
Garth Olwg


Ymweliad â'r Pantomeim
Ar brynhawn Dydd Iau, Ionawr 11eg aeth yr ysgol gyfan i'r Miwni ym Mhontypridd i weld y Pantomeim "O Crymbs! Nid Barbra Bara!"

Dymuniadau Da
Da yw clywed bod Mr Hughes yn dal i wella. Ein dymuniadau gorau i chwi Mr Hughes.

4

Tudalen Nesaf >