Tudalen Nesaf >

Hwyl a Hoe
i John?


Mae John yn ddeng mlwydd oed.  Mae ganddo chwaer bymtheg oed sydd ag anawsterau dysgu a man anableddau a brawd 8 oed sydd hefyd ac anawsterau dysgu.  Mae Mam John yn dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl sydd yn golygu ei bod yn gorfod gadael y teulu yn achlysurol er mwyn cael help a chefnogaeth arbenigol. 
   Mae John wedi hen arfer ag ymdopi gyda gofalu am ei frawd a'i chwaer ac wedi gorfod aeddfedu yn gyflym a chymryd cyfrifoldebau mawr.  O ganlyniad nid yw'n gyfarwydd a chael y math o fywyd cymdeithasol byddai'r rhan fwyaf o blant 10 oed yn ei gael ac anaml gall fynychu gweithgareddau tu allan i'r ysgol oherwydd ei gyfrifoldebau fel cynhaliwr ifanc.  Er mai Saesneg yw iaith Mam John, mae John a'i frawd a'i chwaer yn dewis siarad Cymraeg o fewn y cartref a phan ofynnwyd i John a hoffai gael gwirfoddolwr/wraig i fynd ag ef allan unwaith yr wythnos ei ymateb oedd - " licen i gael rhywun sydd yn siarad Cymraeg".
   Os ydych chi'n credu y byddech yn mwynhau yr her o fod yn gyfaill i John a mynd ag ef allan yn rheolaidd iddo gael seibiant o'r cartref cysylltwch â Eleri Griffiths cyn gynted â phosibl  01443 485337.  Nid oes angen unrhyw gymwysterau na phrofiad ond bydd cyfweliadau anffurfiol yn cael eu cynnal.  Darperir cefnogaeth,

Tudalen Nesaf >