|
Cinio Gwyl Ddewi Mae'r cinio prynhawn Sul wedi dod yn rhan draddodiadol o galendr Clwb y Dwrlyn ac eleni y gðr gwadd yn Nhy'r Isha oedd Clive Rowlands, y chwaraewr rygbi roddodd Gwm Twrch ar y map. Cydymdeimlad Hoffwn fynegi ein cydymdeimlad ac Ann a Gareth Hughes a'r teulu, wedi i Ann golli ei thad yn ddiweddar.Roedd ei thad yn ffermio yn ardal Maes y Crugiau ger Llanllwni, ond symudodd ef a'i wraig i Gaerfyrddin tua thair mlynedd yn ôl. Clwy'r Traed a'r Genau Blin yw gweld y llwybrau cyhoeddus a Fynydd y Garth ar gau i'r cyhoedd. Wedi dweud hynny, mae'n bwysig i ni gyd gefnogi'r ffermwyr, a chadw draw. Efallai, wnawn gwerthfawrogi'r llwybrau mwy pan fyddant ar agor unwaith eto. Gobeithio fydd y sefyllfa trychinebus yma drosodd cyn bo hir. Merched y Wawr Cafwyd noson ddifyr o bizzas a channellonis ym mwyty'r Villagio yn yr Eglwys Newydd, a chyfle i'r aelodau gael anghofio am y caloriau am unwaith. Ar y fwydlen hefyd, roedd datganiadau amrywiol ar y ffidil a'r soddgrwth gan ddau fyfyriwr o Goleg Cerdd a Drama, Caerdydd. Gallwn edrych ymlaen i'r cyfle i ymlacio'r corff a'r meddwl y mis nesa' wrth i ni ymweld â Chlwb Hamdden y Vale ar Nos Wener, 6ed Ebrill. Croeso Adref Awen Mae'n siwr fod teulu Hendre, Pantbach yn falch i weld Awen Penri adref o'i siwrnai rownd y byd. Bu yn Awstralia adeg y gemau Olympaidd, yna yn Neidio Bynji yn Seland Newydd cyn teithio o gwmpas De America o Peru lawr i'r Horn ac yna i'r Carnifal yn Rio. Llongyfarchiadau hefyd i Awen ar dderbyn swydd fel cyfieithydd dan hyfforddiant gyda chwmni Prysg, Caerdydd. |
|
PENTYRCH Gohebydd Lleol: Bethan Griffith |
|
3 |





|
Sioe Ffasiwn yr Urdd (gweler tudalen 1) |
