BETHLEHEM CWMLAI

Mae Mrs Wendy Banwell gwraig y gweinidog Parchedig Ernie Banwell wedi treulio amser maith yn yr ysbyty ers cyn y Nadolig diwethaf. Da oedd ei gweld yn yr oedfa ar nos Sul wythnos yn ôl .

   Llongyfarchiadau  mawr i Miss Alex Durbin ar ei phenderfyniad i  fynd am y weinidogaeth. Yn anffodus mae Alex yn ddall ers ei phlentyndod, ond mae ei brwdfrydedd yn anhygoel. Edmygaf ei hyder yn cymryd at y rhannau arweiniol yn y gwasanaethau a hynny gyda graen. Cafodd ei bedydd drwy ymdrochiad Mis Medi llynedd. Pob bendith iddi. Mae yn ei haeddu.


CAPEL Y TON.

Rydym Yng Nghapel Y Ton wedi derbyn ein cyfran o'r llyfr emynau newydd "Caneuon Ffydd", sydd at ddefnydd cydenwadol ac yn gyfrol swmpus. Mae ei gynnwys yn wych ac yn siwr o fod at ddant pawb.

DATHLU GÐYL DEWI.

Cefais groeso mawr ar fore ein Nawdd Sant yn Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail gan y Brif Athrawes Mrs Preece a'r staff. Cefais fy hun ynghanol y plant yn y neuadd yn cynnal Eisteddfod, hyfryd oedd gweld brwdfrydedd a oedd yn llenwi'r neuadd, a'r gwisgoedd traddodiadol lliwgar.

   Mr Lloyd, y dirprwy Brifathro, a Miss Nia Downes oedd y beirniaid a gwaith digon anodd oedd ganddynt.

   Yn y prynhawn cefais yr un croeso yn Ysgol Gynradd Cwmlai gan y Prifathro Mr David Jones a'i staff a chael y plant yn cynnal cyngerdd yn y neuadd. Roedd gwahanol eitemau yn Gymraeg ymhlith y rhai Saesneg, a chôr yr ysgol o dan arweinyddiaeth medrus Mrs Margaret Davies, merch Mr Richard Williams arweinydd corau Tonyrefail. Mae hithau yn aelod o'r staff.


CORAU RICHARD WILLIAMS

Mae'r corau yn dal mewn bri a galw mawr ar eu gwasanaeth dros ardaloedd eang. Mae yna dri chôr. Y gwreiddiol Boneddigion y Gan, Côr Merched Richard Williams a Chôr Plant Tonyrefail ac fel rown i yn deall fod yna ddatblygiad o gael côr  iau i borthi'r côr uwch pan fydd rhai yn gadael, mae hyn yn llaw Siân, y ieuengaf o blant Richard Williams


TAITH IR WLADFA.

Dymuniadau gorau i Dani Grehan a Helen Prosser a'r plant Fflur a Gwynfor. Byddant yn mynd am dro i Batagonia ar ddiwedd Mis Mawrth. Byddant yno am dair wythnos a chael gweld fel mae'r Gymraeg wedi dal ar ôl bron i gant a hanner o flynyddoedd, ers pan adawodd y cyn deidiau y famwlad.


SAFLE PWLL GLO COEDLAI.

Braidd yn araf mae'r gwaith o dacluso safle yr hen bwll glo a'r safle gwaith golosg. Mae blynyddoedd lawer ers eu caewyd. Maen't wedi cael gwastraff gwenwynig yn enwedig ar safle'r gwaith golosg a bydd rhaid cael gwared ar hyn cyn y bydd y safle yn ddiogel i'w ddefnyddio at unrhyw bwrpas arall.


TONYREFAIL


Gohebydd Lleol: D.J. Davies

4

   Ar nos Sul 25ain o Chwefror aeth nifer sylweddol o'n haelodau a ffrindiau mewn bws i Gymanfa Flynyddol yr Arglwydd Faer Caerdydd yn Neuadd Dewi Sant. Roedd yn chwithig heb arweiniad Mr Glynne Jones, arweinydd côr Pendyrus. Ef oedd wedi arwain y gymanfa ers ei sefydlu ddeng mlynedd yn ôl. Roedd yn hyfryd i  weld côr Pendyrus yno fel arfer. Arweinydd y noson oedd Mr Alun Tregelles Williams a'i frawd wrth yr organ sef Mr Huw Tregelles Williams. Bu farw Mr Glynne Jones ddydd Nadolig diwethaf.

Cynulleidfa Eisteddfon Ysgol Gymraeg Tonyrefail

Cystadleuwyr yn Eisteddfod Ysgol Gymraeg Tonyrefail

GWASANAETHAU

CAPEL Y TON

Am 3 y prynhawn

Ebrill 1af  Parch Hywel E. Lewis

Ebrill 8ed  Parch D. Haydn Thomas

Ebrill 29ed Yr Athro J. Gwynfor Jones

Mai 13eg Parch Gwilym Dafydd

Mai 20ed Parch David H Thomas

Mai 27ed Parch W I Cynwil Williams

Tudalen Nesaf >

Tudalen Nesaf >