|
Ysgol Evan James
Y Brodyr Edwards. Ar ddechre' gêm Pontypridd v Glasgow Caledonians fe gerddodd Danni, Ben a Sam Edwards mas ar y cae fel masgots y tîm lleol. Cafodd y tri o Drehopcyn ddiwrnod wrth eu bodd yn gwylio'r gêm yn enwedig gan i Ponti ennill!
Lawnsio Wrth i Mair Daniels o Ddosbarth 12 a'i mam siopa yn Asda Coryton yn ddiweddar fe'u dewiswyd i helpu lawnsio Ymgyrch Diogelwch ar y Ffordd gan Gyngor Sir a Dinas Caerdydd.
Priodas Llongyfarchiadau i un o Lywodraethwyr yr ysgol, Hayley Bertram a briododd yn ddiweddar yn ei gwlad genedigol, De Affrig.Fe ganodd ei mab 6 oed,Tyler o Ddosbarth 5, "Calon Lan" yn y gwasanaeth gan ddod â deigryn i sawl llygad!!
Gwellhad Buan Dymuniadau gorau am wellhad buan i Rhodri Griffin, Blwyddyn 6 a dorrodd ei goes wrth chwarae rygbi y mis diwethaf.
Gweithgareddau Noddedig. Eleni er mwyn casglu arian i gronfa'r ysgol bu'r disgyblion yn cynnal nifer o weithgareddau yn seiliedig ar rywbeth ieithyddol. Cafodd y plant hwyl yn dysgu hwiangerddi,cerddi,idiomau a phriod-ddulliau.
Pontypridd. Estynnwn ein cydymdeimlad â Dorothy, Barry a Geraint Wyn Todd, Parc Prospect, Graigwen. Bu farw mam Dorothy o Ystalyfera y mis diwethaf.
Cerddorion o Fri. Llongyfarchiadau i Huw Blainey,Lanwood Road, ac Aled a Huw Wilcox, Lan Close ar basio eu haroliadau piano yn ddiweddar.Daliwch ati bois!!
|
|