Tudalen Nesaf >

EFAIL ISAF

Gohebydd Lleol: Pat Edmunds

   Er i'r pwyllgor wario arian mawr, sef £3500 i wella pryd a gwedd tu fewn i'r adeilad mae cyflwr yr adeilad ei hun yn achosi pryder i'r dyfodol. Heb os bydd rhaid gwneud rhywbeth radical cyn bo hir.
   Os ydym fel trigolion y pentref am achub y neuadd bydd rhaid cefnogi un o bedwar cynllun sydd dan ystyriaeth gan y pwyllgor. Mae'r sefyllfa yn un unigryw iawn gan fod y neuadd yn eiddo i'r gymuned yn unig.
   Hefyd, mae cais wedi'i  dderbyn i newid y cyfansoddiad - mae'r un presennol yn anodd i weithredu. Mae braslun o'r cyfansoddiad yma i'w weld yn y siop.
   Rwy'n erfyn i bawb sydd â diddordeb yn nyfodol y neuadd i fynychu'r cyfarfod nesaf ar yr ail o Fai neu gysylltu ag aelod o'r pwyllgor.

Lois yn Lourdes - Pasg 2001
Mae un o ferched ifanc hynaws y pentref newydd ddychwelyd adre ar ôl treulio wythnos fendigedig yn Lourdes. Dan nawdd Grðp Lourdes Ysbyty'r Waun cafodd Lois, merch Celt ag Enfys, Penywaun, wythnos brysur, bythgofiadwy yn cymryd rhan fywiog mewn rhaglen o weithgareddau amrywiol a llesol.
   Braslun sydd yma o ddyddiadur Lois a'i gofalwraig, Sara Davies, o'r wythnos a oedd yn llawn digwyddiadau hwylus.

Llun - Gadael Caerdydd am 3.30 y bore yn gyffrous iawn.
Mawrth - agor y pererindod gyda gwasanaeth fawreddog
Mercher - Cerdded i weld "Stations of the Cross". Gorymdaith dan olau canhwyllau gyda'r hwyr.
Iau - Gwasanaeth enfawr - cannoedd o blant a phobl yn canu yn y Basilica - gwefreiddiol. Prynhawn yn siopa.
Gwener - Ymweld â Grvarnie - eira ar y llawr ac yn oer iawn. Gwneud tân gwyllt a bwyta picnic o'i amgylch. Diweddglo hyfryd i'r wythnos ac i'r trip - parti mawr gyda llawer o ganu.
Sadwrn - Gwasanaeth olaf - dweud gweddi a goleuo canwyll cyn gadael am adref.
   Heb os nag onibai os daw'r cyfle eto i fynd i Lordes bydd Lois yno "fel shot".

Swydd Newydd
Mae Gethin Thomas, mab John a Judith, Nant Celyn, wedi derbyn swydd newydd fel newyddiadurwr gyda Chwmni Trinity Mirror perchnogion papurau newydd fel y Western Mail a'r Mirror. Bydd yn gyfrifol am chwaraeon ac yn gweithio ar y rhyngrwyd newyd sbon www.icwales.co.uk. Felly, heb oedi cysylltwch â fe ar y we. Dymuniadau gorau iddo yn ei swydd newydd.
   Newydd da arall i'r Thomas's - mae tad Judith yn gwella a chyn bo hir yn cael dod adre o'r ysbyty. Gwellhad llwyr iddo.

Cyngerdd Wych
Ar nos Wener 30 o Fawrth cynhaliwyd cyngerdd fawreddog yng nghapel y pentref gan y tri chôr lleol - Parti'r Efail, Merched y Garth a Chôr Godre'r Garth.
   Roedd y noswaith yn ysgubol o lwyddiannus, y gynulleidfa wedi mwynhau yn fawr a phawb yn dymuno cael y wledd eto yn y dyfodol agos.
   Roedd y gymeradwyaeth frwdfrydig ar ddiwedd y noswaith yn un deilwng iawn.

Marwolaeth
Estynnwn ein cydymdeimlad i Duro (George) Stokucha, Heol y Ffynnon, ar ôl iddo golli ei wraig Barbra, ym mis Ebrill.

Capel Tabernacl
Trefn yr Oedfaon
Mai 6ed - Cymun Parch D. Eirian Rees
Mai 13 - Parch Wyn Evans (Llangennech)
Mai 20 - Parch D. Eirian Rees.
Mai 27 - Parch Cynnwyl Williams

Gymanfa Ganu
Ar Fehefin 17 cynhelir Gymanfa Ganu yn Capel Tabernacl am 10.45. Fe fydd plant o'r ysgolion Cymraeg lleol yn cymryd rhan. Yr arweinydd fydd Robert Nicholas o Benclawdd.

Priodas
Llongyfarchiadau i Siân Henry, cyn ddisgybl Garth Olwg ag Ysgol Gyfun Llanhari, a Dr Paul Onions a briododd ar y 31 o Fawrth yn Llundain. Bu ar eu mis mêl yn teithio o amgylch San Francisco.
   Ar hyn o bryd mae Siân yn gweithio yn rhan amser fel gweithwraig cymdeithasol ag yn dilyn cwrs grad M.A.
   Estynnwn ein dymuniadau gorau i Siân a Paul ar ddechrau eu bywyd priodasol.

Croeso
Mae Mrs Enid Rees newydd symud i 17 Penywaun. Croeso cynnes iddi, gobeithio wneiff ymgartrefu yma'n fuan iawn. Pob hapusrwydd iddi yn ei chartref newydd.

Cyflwr Neuadd y Pentref
Ar y 19 o Ebrill cynhaliwyd cyfarfod pwysig iawn yn neuadd y pentref i drafod dyfodol y lle.

Lois a'i gofalwraig, Sara Davies
yn Lourdes

3

Tudalen Nesaf >