Tudalen Nesaf >

LLANTRISANT

Gohebydd Lleol: Siân Evans

ARHOLIADAU OFFERYNNOL
Hoffwn longyfarch Catrin Evans ac Eleri Tudor ar basio eu harholiadau piano yn ddiweddar; pasiodd Catrin yr arholiad Gradd III ac Eleri, sy'n byw yn y Meisgyn, Gradd I. Hefyd, llwyddodd Mia James yn ei harholiad Gradd I ar y ffidil.

CYNGERDD YN LLANHARI
Braf oedd gweld nifer o ieuenctid ardal Llantrisant yn cymryd rhan mewn cyngerdd yn Ysgol Gyfun Llanhari ar ddiwrnod olaf Tymor y Gwanwyn. Fel ym ymhob ysgol Gymraeg arall yn yr ardal, roedd disgyblion Llanhari wedi bod wrthi'n ddyfal yn ymarfer pob math o gystadleuthau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Ond wedyn penderfynwyd na fyddai'r Eisteddfod yn cael ei chynnal eleni yng Nghaerdydd a'r Fro oherwydd argyfwng clwy'r traed a'r genau. Nid oedd yr ysgol am i'r holl ymarfer fynd yn ofer ac felly aethpwyd ati i baratoi ar gyfer cyngerdd yn lle hynny, er mwyn i'r disgyblion fedru dangos yr hyn oeddent wedi ei gyflawni. Roedd eitemau yn amrywio o ddawnsio disgo i barti cerdd dant a chyflwyniad llafar a chafwyd prynhawn difyr o adloniant graenus. Fel y dywedodd y Prifathro, mae ganddynt bron i Flwyddyn nawr i berffeithio'r holl eitemau!

PANTOMEIM
Bu llawer o ymarfer hefyd ym Meisgyn lle mae'r "lst Pontyclun Brownies & Guides" yn cyfarfod yn wythnosol. Buont yn paratoi am wythnosau ac ar yr 2ai1 o Ebrill bu'r merched wrthi'n rhoi perfformiad o'r pantomeim "Jack and the Beanstalk". Roedd tua 35 o ferched yn cymryd rhan gan gynnwys Jayne Collier (Jack), Elinor West (mam Jack), Rachel a Katie Imperato, Laura Winfield Young, Bethan Theaker, Caryn Edwards, Kate Jones, Catherine Hill Tout a Hannah Greville i gyd o Lantrisant a'r cylch.

Catrin a Jordan yn ymarfer cyn yr arfoliad Ballet

GILFACH GOCH

Gohebydd Lleol: Betsi Griffiths

LLONGYFARCHIADAU
Llongyfarchiadau i Gareth Walters sydd bellach yn bencampwr Badminton Colegau Prydain, ar ôl ei lwyddiant yn y gystadleuaeth yng ngholeg Millfield. Roedd Gareth yn cynrychioli Coleg Penybont a chafodd gystadleuaeth anodd iawn yn chwarae yn erbyn dau o brif chwaraewyr Lloegr. Da iawn wir Gareth. Newydd ailgydio yn y gêm y mae ar ôl gorfod cymryd egwyl yn dilyn llawdriniaeth. Roedd Gareth hefyd yn fuddugol yn y Gystadleuaeth Agored i ddynion yng Ngwent. Mae Gareth, sydd yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Llanhari wedi cael ei dderbyn i fynd i U.W.I.C. ym mis Medi i astudio Addysg Gorfforol.

"PWY SYDD AM FOD YN FILIWNYDD?"
Cafodd sawl un oedd yn gwylio'r rhaglen boblogaidd yma syndod y dydd o'r blaen o ddeall mai o'r Gilfach y daw rhieni'r brawd a'r chwaer cyntaf i ymddangos ar y rhaglen. Rhai wythnosau'n ôl roedd Adrian Pollock yn trio' i lwc ac enillodd £32,000 ac ar ddechrau mis Ebrill tro ei chwaer Diana oedd hi ac enillodd hithau £32,000. Magwyd eu rhieni sef Arthur a Joan Pollock yn y Gilfach. Llongyfarchiadau i'r ddau.


GWYLIAU
Mae'r gwanwyn wedi dod ac mae'n amser unwaith eto i bobl fynd ar eu gwyliau, ac mae trigolion Gilfach fel sawl pentref arall, yn hoffi mynd ar daith gyda'u gilydd. Aeth Mrs Rose Cook a llond bws i'r Iwerddon ac i Babacombe aeth trip Mrs Abraham. Cafodd pawb amser wrth eu bodd yn y ddau le a buont yn ffodus i beidio gwlychu er gwaetha'r glaw.

Y GUILD
Cafodd pawb fwynhad wrth wrando ar sgwrs Mr Dilwyn Leyshon ar hanes diddorol Llantrisant pan daeth i siarad â'r Guild yn ddiweddar. Mae'n siwr y bydd hen adeiladau Llantrisant yn golygu llawer mwy i'r aelodau o hyn ymlaen. Ymhlith yr artifactau diddorol oedd ganddo roedd copi o reolau'r Tþ Model i'w preswylwyr pan oedd yn wyrcws. Diolch yn fawr am noson ddiddorol.


4

Tudalen Nesaf >