Tudalen Nesaf >

CWIS CYD YN GWE-FREIDDIO DYSGWYR


Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn annog siaradwyr a dysgwyr o bob safon i gymryd rhan mewn cwis arbennig sy'n cael ei drefnu ar y we.
   Dyma'r tro cyntaf i Gwis CYD gael ei drefnu ar y we, yn dilyn nifer o gwisiau wyneb-yn-wyneb llwyddiannus dros y blynyddoedd diwetha£ Penderfynwyd trefnu seiber-gwis eleni, er mwyn manteisio ar ddatblygiadau gyda'r we, a'r ffaith y gall mwy o siaradwyr Cymraeg a dysgwyr nag erioed gymryd rhan, ond hefyd oherwydd clwy'r traed a'r genau yng nghefn gwlad Cymru.
   Bwriad y cwis, a gynhelir ar y we trwy gydol Gorffennaf eleni, yw dod â dysgwyr a siaradwyr Cymraeg at ei gilydd mewn tîm, i gystadlu - yn Gymraeg - am wobrau, ond yn fwyaf oll am y bri o fod yn enillydd Cwis CYD 2001
Dywedodd Meirion Prys Jones, Pennaeth Adran Addysg ac Hyfforddiant Bwrdd yr Iaith Gymraeg:
"'Rydym ni fel Bwrdd yn falch o annog pobl i gymryd rhan yng nghwis CYD, gan ei fod yn gyfle arbennig i bobl ymarfer eu Cymraeg mewn ffordd hwyliog. `Rydym yn arbennig o falch o weld CYD yn ehangu'r cwis i fod ar y we, gan fod hyn yn galluogi nifer fawr o bobl i gymryd rhan yn yr hwyl!"
   Mae cymryd rhan yn y cwis yn hawdd iawn. Rhaid cystadlu mewn timoedd, sy'n cynnwys o leiaf un dysgwr ac un siaradwr Cymraeg, a gellir cofrestru drwy ffonio Swyddfa CYD yn Aberystwyth ar 01970 622 143, neu gellir e-bostio jjt998@aber.ac.uk am ragor o fanylion.

Argyfwng Ariannol


Mae Tafod Elái ei hun mewn argyfwng yn ôl y Trysorydd, Elgan Lloyd. Er fod y gwerthiant i fyny nid yw'n ddigon i dalu am yr argraffu erbyn hyn a hynny yn bennaf oherwydd brwdfrydedd y gohebwyr yn danfon pentwr o stwff i'w gyhoeddi.
   Mae Tafod Elái yn cael nawdd o £1,000 gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac hefyd yn cael cefnogaeth rhai hysbysebwyr.
   Er mwyn sicrhau  dyfodol y papur a rhoi digon o le i'n gohebwyr bydd y pris yn codi i 40 ceiniog o fis Medi - £4 am y flwyddyn.
   Mae croeso i chi ddanfon unrhyw sylwadau ar y papur bro i'r Golygydd.


GOLYGYDD
Penri Williams
029 20890040

LLUNIAU
D. J. Davies
01443 671327
CHWARAEON
Martin Huws
029 20811413
ERTHYGLAU
Dafydd Huws
HYSBYSEBION
David Knight 029 20891353
DOSBARTHU
John James 01443 205196
TRYSORYDD
Elgan Lloyd 029 20842115
CYHOEDDUSRWYDD
Colin Williams
029 20890979

Cyngor Defnyddwyr Cymru yn lansio ei wefan newydd


www.wales-consumer.org.uk yw'r wefan un-stop ar gyfer popeth y dymunwch wybod am faterion defnyddwyr yng Nghymru.  Os ydych eisiau cysylltu a'ch swyddfa safonau masnach leol ynglyn a chynnyrch diffygiol neu gysylltu gyda'ch cynghorau iechyd cymunedol lleol, medrwch ddod o hyd iddynt yn gyflym yn www.walesconsumer.org.uk.
   Daw'r safle newydd yn hollol rhyngweithiol yn fuan gyda lansiad Rhwydwaith Defnyddwyr Cymru. Gall pobl yng Nghymru sydd yn bryderus am unrhyw beth o ddiogelwch cynnyrch i'r gwasanaeth bws lleol yn medru logio i mewn i fwrdd trafod newydd a dweud wrthym beth sy'n digwydd yn eu hardal hwy.
   Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r Rhwydwaith Defnyddwyr, gofynnir i chi gysylltu â Sheila cyn gynted ag sydd modd.
E-bost: sheila@wales-consumer.org.uk Ffôn: 029 2025 5454

Cyhoeddir y rhifyn nesaf
ar y 1af Medi 2001
Erthyglau a straeon
i gyrraedd erbyn
9 Awst 2001

Y Golygydd
Hendre 4 Pantbach
Pentyrch
CF15 9TG
Ffôn: 029 20890040

Tafod Elái ar y wê
http://www.tafelai.com
e-bost
pentyrch@tesco.net

Argraffwyr: 
Gwasg Morgannwg
Uned 27, Ystad Ddiwydiannol
Mynachlog Nedd
Castell Nedd SA10 7DR
Ffôn: 01792 815152

www.cwlwm.com


Er mwyn dod â gwybodaeth am holl weithgareddau Cymraeg yr ardal i chi sefydlwyd safle we newydd
www.cwlwm.com.

Os hoffech gynnwys unrhyw wybodaeth ar y safle cysylltwch â
gwe@cwlwm.com.