|
I gyd-fynd â deng mlwyddiant ar hugain Cantorion Creigiau, mae un o gorau mwyaf llwyddiannus Cymru yn rhyddhau CD newydd, sef Un Llais-One Voice ar label Sain ddydd Llun, Mehefin 25. Ac i gyd-fynd â lansiad y CD newydd sydd â phedair cân ar ddeg arni, mae'r côr wedi trefnu cyngerdd i gefnogi ysbyty plant Tþ Hafan ym Mhontyclun ddydd Mercher, Mehefin 27.
Ffurfiwyd Cantorion Creigiau fel grðp carolau i ddechrau, ac arferai'r aelodau deithio ar gefn trelar o amgylch pentref Creigiau, ger Caerdydd. Dan stiwardiaeth Mair Roberts, yr arweinydd, mae'r côr bellach wedi chwyddo mewn nifer i 75 o aelodau, gan gynnwys 10 cwpl priod, ac mae llawer ohonynt wedi bod yn aelodau ers y cychwyn.
Mae'r côr hefyd wedi cystadlu'n llwyddiannus mewn nifer o gystadlaethau mawr gan gynnwys rownd derfynol cystadleuaeth Côr y Flwyddyn Sainsbury a'r Eisteddfod Genedlaethol, ac maent hefyd wedi codi miloedd o bunnau i elusennau ers 1971. Cynhelir cyngherddau bob pythefnos gyda phob eitem gan aelodau'r côr.
Astudiodd Mair yn ysgol berfformio Italia Conti a'r Guildhall School of Music yn Llundain, ac mae'n soprano ddawnus sydd wedi perfformio ar hyd a lled y byd, nid yn unig â Chantorion Creigiau, ond hefyd fel unawdydd gwadd gyda nifer o gorau meibion, gan deithio trwy Awstralia, Hong Kong a Canada. Mae hefyd yn actores sydd wedi ymddangos ar y teledu sawl gwaith, ac mae hi'n feirniad rheolaidd mewn cystadlaethau canu yn yr Eisteddfod.
Meddai Mair, "Mae'n anodd credu bod deng mlynedd ar hugain wedi mynd heibio ers i ni gychwyn fel côr. Rydym wedi datblygu cryn dipyn ers hynny, ac mae'r ffaith bod nifer o aelodau'r côr wedi bod yma ers y cychwyn yn dangos eu hymroddiad i Gantorion Creigiau.
|
|