Tudalen Nesaf >

MENTER IAITH

ar waith yn
Rhondda Cynon Taf

01443 226386

www.menteriaith.net

DIOLCHIADAU PARTI PONTY

Diolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed i drefnu gweithgareddau Parti Ponty eleni. Yn bennaf oll wrth gwrs holl staff Radio Cymru sydd wedi gwneud llawer iawn mwy na fase'n deg i neb ddisgwyl mewn gwirionedd - marchnata, cyngor a chymorth iechyd a diogelwch, trefniadau adloniant, dod a sioe eu hunain, darlledu'r cwbl i'r byd, codi ysbryd pawb a chefnogi'r Gymraeg mewn Addysg yn Ne Ddwyrain Cymru. Dwi ddim yn brolio gwaith y Fenter wrth gytuno bod Parti Ponty yn brysur tyfu yn ddigwyddiad o bwys yng nghalendr cenedlaethol yr Iaith Gymraeg diolch yn bennaf holl i Aled Glyn Davies Golygydd Radio Cymru.

Mae Taith Haf  S4C wedi ychwanegu cryn dipyn at yr wyl eleni ac y mae diddordeb rhagleni teledu a hyrwyddo Planed Plant ar y teledu ac ar bill boards de Cymru wedi bod yn gyfraniad amhrisadwy felly mawr yw ein diolch iddyn nhw.

Dyfrig a staff yr Urdd yn trefnu chwaraeon i ni unwaith eto, er bod ganddynt benwythnos i ffwrdd yn Llangrannog ar yr un pryd, yn dangos pa mor galed y mae rhai pobl yn gweithio dros y Gymraeg.

Sharon Warren a Glynis Huish yn trefnu presenoldeb sylweddol gan Fudiad Ysgolion Meithrin ar lwyfannau Radio Cymru ac S4C.

Myfanwy yn y Cymro, gydag ychydig o gymorth gan Gwyn Griffiths, yn darparu atodiad yn y papur hwnnw. Golwg hefyd yn cefnogi, fel y mae'r papurau bro

Criw YMCA Pontypridd ar Lwyfan y Fenter ym Mhari Ponty

Stondinwyr eleni? Wel, gormod efallai  gan gynnwys Sain, Fflach, Yr Urdd, sawl Adran o Gyngor Rhondda Cynon Taf gan gynnwys Hamdden, Datblygu Cymunedol, Datblygu Economaidd, Llyfrgelloedd a Thwristiaeth, Prifysgolion Morgannwg a Chaerdydd a 5 stondin y Fenter sef Gofal Plant, Datblygu Economaidd, Ieuenctid, Gwirfoddoli a stondin "Y Fenter". Diolch yn fawr iawn yn arbennig i Huw T Davies am ei waith gyda'r stondinau - a Dawn Williams am ei gwaith trefnu a rheoli llwyfan y Fenter.

Rhaid diolch hefyd i holl berfformwyr Parti Ponty eleni - y rhai proffesiynol a'r rhai cymunedol - nhw sy'n gwneud y sioe i bawb. Teg hefyd yw nodi ein dyled i Martyn Geraint sydd wedi bod
gyda ni bob tro ac yn rhan allweddol o'r ðyl fel y mae Côr Parti Ponty gyda chymorth Afryl Davies - dau uchafbwynt i lawer iawn o bobl. Diolch hefyd i athrawon a phrifathrawon y cylch am eu cymorth parod - dathlu'r Gymraeg mewn addysg y mae'r ðyl ac ni fyddai'r Gymraeg na'r addysg yn fyw heddynt.

O safbwynt y Fenter diolch yn fawr iawn i'r gwirfoddolwyr ar bob stondin ac i'r staff - Huw, Rhian, Dawn, Rhodri, Trystan, Eleri, Eirian a chroeso i John Thomas o Faesteg - ail gydlynydd gofal plant y Fenter a fydd yn dechrau yn fuan iawn.

GWASANAETHAU GOFAL PLANT NEWYDD YN AGOR


Os ydych wedi sylwi ar benodi ail gydlynydd gofal plant efallai eich bod yn gofyn pam fod eira yn wyn neu mewn geiriau eraill pam fod angen ail gydlynydd gofal plant!  Agorwyd Clwb Carco Rhydygrug ar 11/06/01. Agorwyd Clwb Carco Twynyrodyn ar 18/6/01. Agorwyd Clwb Carco Bronllwyn ar 25/6/01. Agorir - gobeithio - Clwb Carco Llynyforwyn ar 2/7/01. Agorir - gobeithio - Cynllun Gofal Gwyliau Bronllwyn ar 25/7/01. Agorir - gobeithio - Cynllun Gofal Gwyliau Llynyforwyn ar 25/7/01.  Os ydych chi eisiau gwybod am y chwyldro gofal plant dewch i edrych ar waith y Fenter Iaith yn Rhondda Cynon Taf - rydym yn cyflogi tua 50 o siaradwyr Cymraeg bob diwrnod o'r wythnos i ddarparu gwasanaethau pwysig lleol trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn bersonol rwyf yn hynod o falch, er braidd yn flinedig, ac  yn ddiolchgar iawn i Trystan Griffiths am ei gefnogaeth a gwaith caled.

CYNLLUNIAU GOFAL CHWARAE GWYLIAU'R HAF


Dewch yn llu i fanteisio ar y gwasanaethau sydd ar gael.  Mae manylion llawn ar gael gan ffonio 01443 226386 ac y mae modd trefnu llefydd dros y ffon gan dalu gyda chardiau credyd VISA neu Mastercard. Mae ein gwasanaethau

4

Tudalen Nesaf >