Tudalen Nesaf >

ARGYFWNG

Efallai nad ydy sefyllfa'r iaith Gymraeg yn edrych yn bryderus wrth weld y twf yn yr ardal hon ond mae'n sicr fod y tyfiant hwnnw wedi ei seilio ar gannoedd o athrawon a gweithwyr eraill a ddaeth o gefn gwlad i fyw yma.
   Felly mae'n bwysig ein bod ni hefyd yn cefnogi mudiad newydd Cymuned sydd am sicrhau fod yr iaith yn parhau yn rhan bwysig o'n bywyd. Hefyd mae'n bwysig fod pawb yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio'r Gymraeg fwy fwy yn yr ardal hon - drwy lythyru a ffonio'r Cyngor Sir a chyrff eraill a mwynhau a chymdeithasu drwy'r Gymraeg - mae digon yn digwydd!

Llyfr y Brifddinas


Mae Martin Huws, ein gohebydd yn Ffynnon Taf, wedi cyhoeddi llyfr yn sôn am hanes a golygfeydd Caerdydd.
   Ers cyfnod y Rhufeiniaid mae'r safle ar aber y Taf a'r Elái wedi bod yn bwysig i reoli bywyd yr ardal ac mae'r llyfr yn olrhain hanes adeiladu'r Castell a'r adeiladau eraill sydd wedi trawsnewid y dref i fod yn un o brif-ddinasoedd mwyaf bywiog Ewrop.
   Mae'r llyfr dwyieithog yn llawn lluniau diddorol ac yn gofnod arbennig o ddatblygiad ein prif-ddinas.
Caerdydd. Martin Huws. Gwasg Gomer £1.95.


GOLYGYDD
Penri Williams
029 20890040

LLUNIAU
D. J. Davies
01443 671327
CHWARAEON
Martin Huws
029 20811413
ERTHYGLAU
Dafydd Huws
HYSBYSEBION
David Knight 029 20891353
DOSBARTHU
John James 01443 205196
TRYSORYDD
Elgan Lloyd 029 20842115
CYHOEDDUSRWYDD
Colin Williams
029 20890979

Cymraeg i Oedolion
Cynhadledd i rannu arfer dda
Dydd Mawrth, 18 Medi
Gwesty Treftadaeth y Rhondda

Cofrestru: 01443 842008

Clwb y Dwrlyn
Noson Agoriadol
yng nghwmni
Iestyn Morris
8pm Nos Wener
14 Medi
Yn Ysgol Gynradd Creigiau

Cyhoeddir y rhifyn nesaf
ar y 1af Hydref 2001
Erthyglau a straeon
i gyrraedd erbyn
20 Medi 2001

Y Golygydd
Hendre 4 Pantbach
Pentyrch
CF15 9TG
Ffôn: 029 20890040
Tafod Elái ar y wê
http://www.tafelai.com
e-bost
pentyrch@tesco.net

Merched y Wawr
Cangen y Garth
Noson Agoriadol yng nghwmni Rhianydd Richards, 8pm Nos Fercher Medi 19 Neuadd y Pentref, Pentyrch
Manylion: 029 20891426

Côr Godre'r Garth
angen
Cyfeilydd/es

Mae Côr Godre'r Garth yn gwahodd cyfeilyddion piano i gynorthwyo un o gorau cymysg mwyaf Cymru. Mae'r côr yn ymarfer ar nos Sul yn Efail Isaf ac yn cynnal cyngherddau lleol a thramor.
   Os oes diddordeb gennych ffoniwch yr arweinydd, 
Wil Morus Jones
01443 404001.

Cylch Cadwgan
Y Taeogion yn darllen barddoniaeth ysgafn a dwys.
Nos Wener, Hydref 5 2001
yn Neuadd y Pentref, Pentyrch

Argraffwyr: 
Gwasg Morgannwg
Uned 27, Ystad Ddiwydiannol
Mynachlog Nedd
Castell Nedd SA10 7DR
Ffôn: 01792 815152

www.cwlwm.com


Er mwyn dod â gwybodaeth am holl weithgareddau Cymraeg yr ardal i chi sefydlwyd safle we newydd
www.cwlwm.com.
   Os hoffech gynnwys unrhyw wybodaeth ar y safle cysylltwch â
gwe@cwlwm.com neu 029 20890040

Tudalen Nesaf >