|
Graddedigion newydd! Llongyfarchiadau fil i Cerian Roberts, Parc y Felin a Siân Edwards, Parc y Fro ar ennill graddau anrhydeddus iawn ychydig yn ôl. Graddiodd Cerian o Brifysgol Abertawe a Siân o Goleg y Drindod, Caerfyrddin. Dymuniadau gorau i'r ddwy yn eu priod feysydd maes o law.
Colli tipyn o gymeriad Cydymdeimlwn â Robin ac Olwen Griffiths, Parc y Coed. Bu farw Mrs Dilys Jones, mam Olwen yn ystod yr haf a hithau wedi mwynhau bywyd hir a chyfoethog. Gwnaeth ei chartref yma gyda Robin ac Olwen yn y blynyddoedd diwethaf yma a derbyn pob gofal a thynerwch ganddynt. Brodor o Ruddlan ydoedd Mrs Jones, a hithau'n gyn-athrawes.
Mewn cwmni brenhinol! Nid pawb sy wedi troedio lawntiau palas Buckingham a chrwydro ar hyd ei goridorau, ond dyna a wnaeth dau deulu o'r Creigiau yn ddiweddar. Yno i dderbyn yr anrhydedd o Wobr Aur Dug Caeredin ydoedd Siwan Thomas a Fiona MacDonald, a'u teuluoedd yn eu sgil. Cafodd y ddwy eu cyflwyno â'u gwobrau gan y cynllunydd David Emmanuel. Tybed a fyddant mewn cysylltiad â'r gðr hwnnw i gynllunio 'rig-owt' go arbennig ar eu cyfer yn y dyfodol?!
Hen Gonan Llongyfarchiadau i Ken Sedgebeer, Parc y Bryn ddaeth yn gyntaf yn y gystadleuaeth Llythyr Cwyno i Ddysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych. Llythyr difyr a doniol iawn, ar waetha'i gynnwys!
|
|