|
Tybed faint ohonom sy'n sylweddoli - flynyddoedd yn ddiweddarach efallai cymaint fu dylanwad person arbennig arnom ar ryw gyfnod yn ein bywydau. Oni bai amdano ef neu hi, byddai'n sefyllfa heddiw yn dra gwahanol. Ond ym mha ffordd? A oes gennych chi stori dda, stori ddifyr, stori afaelgar, am berson cyffredin roddodd dro anghyffredin yng nghwrs eich bywyd chi? Dyma'ch cyfle i gydnabod eich dyled, i fynegi eich gwerthfawrogiad, i roi'r sylw haeddiannol i rywun arbennig. Waeth faint o flynyddoedd aeth heibio, gobeithiwn allu troi'r cloc yn ôl, ac ailafael yn y berthynas bwysig honno, a chynnig y cyfle i ddweud "Diolch o galon". Mae cwmni teledu Tonfedd Eryri yn chwilio ledled Cymru (ac ymhellach) am bobl i ddiolch yn gyhoeddus iddynt am gyfraniad arbennig i fywydau pobl eraill. Os ydych chi'n nabod unrhyw un sy'n haeddu'r clod a'r sylw, cysylltwch â mi, Marian Elis, Cynhyrchydd, ffôn: 01248 671167, ond peidiwch â sôn wrthyn nhw! Eich cyfrinachau chi fydd ein rhaglenni ni!
|
|