 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
|
<
Dewisiadau |
|
|
Tafod Elái Tachwedd 2001
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
TONYREFAIL
Gohebydd Lleol: D.J. Davies
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
BONEDDIGION Y GÂN.
Bu nos Sadwrn y 6ed o fis Hydref yn noson fawr i'r côr bechgyn gyda'i harweinydd Mr Richard Williams yn dathlu ei hanner canrif o fodolaeth yn Neuadd Hamdden Llantrisant, roedd y neuadd yn llawn a phob tocyn wedi ei werthu ymlaen llaw. Ym mis Ebrill 1951 aeth Richard ati gyda chymorth pump arall o'r teulu i ffurfio grðp o fechgyn i ganu. Yn ôl cofnodion swyddogol pwyllgor ar Fai 3edd 1951 yng Ngwesty'r Ely cynhaliwyd pleidlais i benderfynu enw i'r côr, erbyn hyn mae yn amlwg fod nifer aelodau wedi cynyddu ers 1951 am fod 25 yno ar y noson honno ac roedd yn bleidlais unfrydol i alw'r côr yn Boneddigion Y Gân (Gentlemen Songsters) a dyna ydi'r enw hyd heddiw. Doedd neb tybed wedi meddwl byddai'r côr yn bodoli heddiw ac o dan fatwn yr arweinydd gwreiddiol. Maent wedi ymweld a llawer o wledydd tramor ynghyd â'r wlad yma. Mae Czechoslafacia yn un amlwg iawn ar Almaen, Denmarc, Awstria a Ffrainc. Maent wedi croesawu corau o Rwsia,California, China, Czechoslafacia, Seland Newydd, Awstria, Siapan, Denmarc ar Almaen. Mae yna bobl amlwg wedi bod yn ddilynwyr selog o'r côr fel Cliff Morgan sydd yn gyn ddisgybl o Ysgol Ramadeg Tonyrefail fel ei
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
YSGOL CWMLAI Ar ôl ymddeoliad Mr David Jones fel Prifathro cyn gwyliau'r haf, mae olynydd iddo wedi ei apwyntio sef Mrs Sue Williams o Lanilltud Faerdre. Bydd Mrs Williams yn dechre yn ei swydd newydd ar ôl gwyliau Nadolig, dymuniadau gorau iddi.
PENBLWYDD. Llongyfarchiadau mawr i Mrs Mary Church ar ei phenblwydd yn 96 oed ar 15fed o Hydref. Mae Mary yn byw yn Llysyrefail yn Stryd Uchaf y Ton. Hyd yn ddiweddar bu yn ffyddlon Yng Nghapel y Ton yn anffodus dydy ei golwg ddim fel y bu. Bendithion lu iddi.
MEITHRIN THOMASTOWN. Mae llewyrch yn dal yn y Feithrin yn Thomastown er nad oes cymaint ag arfer yno ond mae yna obaith fydd yna ragor yn dod ar ôl gwyliau Nadolig. Diolch i Mrs Jan Richards a'i chynorthwywyr am ei gwaith da.
MRS SAL EVANS. Mae Mrs Sal Evans sydd yn 101 oed yn dal yn yr ysbyty ond mae yna obaith y daw adre'n fuan i gartre henoed ym Mhentre'r Eglwys.Brodor o Dylchawen Tonyrefail yw Sal.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
gelwyd gynt, a phobl y cyfryngau fel Iwan Thomas, Wyn Calfin a llawer eraill. Roedd yn noson arbennig i Foneddigion Y Gân. Hefyd roedd yn anrhydedd i'r corau eraill sydd o dan Fatwn Richard sef Cantorion Richard Williams a Côr Plant Tonyrefail a fu yn cymryd rhan yn y dathlu ar y noson a hefyd côr plant iau sydd dan arweinyddiaeth Siân Murphy merch Richard, hyfryd weld y corau i gyd yn cyd ddathlu. Unawdwyr ar y noson oedd Helen May merch i Richard ac mae hithau wedi codi i'r brig fel unawdydd ag yn gymdoges i ni yn Nhylchawen, ac yn dal yr ochr ddynol fel unawdydd oedd Marc Burrows mae yntau yn fab i'r tenor enwog Stewart Burrows. Mae Marc yn brysur dilyn ôl traed ei dad. Gyda chorau da mae eisiau offerynwyr da a dyna lle mae Jonathan Griffiths yn ffitio i fewn, ef sydd yn cyfeilio i'r corau i gyd, bachgen o'r Ton yw Jonathan ag ef hefyd yn gymydog i ni yn Nhylchawen gyda'i wraig Heather ar ddwy ferch. Ffrind agos i'r corau yw Ted Boyce a fu yn dathlu gyda'r corau ar y noson mae wedi bod ar y Radio a'r Teledu ers amser maith. Rhyngddynt i gyd bu yn noson fythgofiadwy, ewch ymlaen am hanner canrif arall.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|