|
Galw am diwtoriaid Cymraeg i Oedolion
Ysgrifennaf atoch gan obeithio y caiff y llythyr hwn le yn rhifyn Chwefror eich papur. Fel swyddog sy'n gyfrifol am hybu maes Cymraeg i Oedolion yng Nghymru, yr wyf yn gyfrifol, ymysg pethau eraill, am drefnu ymgyrch i ddenu tiwtoriaid Cymraeg i'r maes. Nid wyf yn gweithio ar fy mhen fy hun, fodd bynnag. Yr wyf yn cydweithio'n agos ac yn rheolaidd a'r wyth Consortiwm Cymraeg i Oedolion sy'n gweithio yn ardaloedd yr hen siroedd er mwyn deall anghenion lleol. Yn ddiweddar, daeth i'm sylw bod yna brinder mawr o diwtoriaid Cymraeg i Oedolion yng Nghymru o ganlyniad i'r twf yn y ddarpariaeth, gyda mwy a mwy o bobl yn cofrestru mewn dosbarthiadau ar hyd a lled y wlad. Gwyddom fod diddordeb mewn cyrsiau Cymraeg wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a bod canran uchel o bobl yn mynychu cyrsiau Cymraeg yn y gweithle. Yn wir, mae'r nifer o gyrsiau sy'n cael eu cynnig wedi chwyddo'n aruthrol mewn ardaloedd fel Abertawe a siroedd Gwent. Mae'r cynnydd hwn yn newyddion da iawn i'r maes, ond mae'n golygu bod angen rhagor o diwtoriaid i gynnal y rhychwant o gyrsiau yma yn genedlaethol. Yr wyf yn gofyn i'r rhywrai ohonoch, felly, sydd â diddordeb mewn dysgwyr ac sy'n credu y medrwch sefyll o flaen dosbarth i ystyried y posibilrwydd o ddod yn diwtor Cymraeg i Oedolion. Os oes diddordeb gennych mewn hyfforddi i fod yn diwtor, yna buaswn yn ddiolchgar petaech yn medru cysylltu â'ch cydlynydd Cymraeg i Oedolion lleol:
CONSORTIWM MORGANNWG Colin Williams (01443) 402867
CONSORTIWM CAERDYDD A'R FRO Helen Prosser (029) 20874710
|
|