|
|
|
|
|
|
|
|
Mae'r disgyblion wedi bod yn brysur iawn yn ystod yr wythnosau diwethaf yn perfformio ac yn ymwneud â gwahanol weithgareddau.I ddechrau bu Blwyddyn 6 yn canu carolau ym Mhontypridd, ac o ganlyniad casglwyd £346 tuag at yr ysgol.
Fe aeth grwp dawnsio gwerin yr ysgol i berfformio i Neuadd Dewi Sant fel rhan o gyngerdd y Joshua Foundation.Roedd y plant yn falch iawn o gael perfformio ar gyfer elusen werth chweil. Aeth côr yr ysgol i recordio ar gyfer C.D Nadolig gan Ysgolion Pontypridd, roedd yn brofiad cofiadwy i'r plant. Hefyd roedd pawb yn yr ysgol yn brysur yn perfformio yn y cyngerdd Nadolig. Perfformiodd yr Adran Iau y pantomein "Eira Wen", a bu i'r Babanod berfformio "Sioe Nadolig yr Anifeiliaid." Roedd y perfformiadau o safon dda,felly da iawn pawb am eu gwaith caled,plant ag athrawon.
Mae Blwyddyn 6 yr ysgol wedi bod yn ymwneud â gweithdy barddoniaeth a gafodd ei gynnal gan Mr Peter Gowen, bardd lleol. Roedd y plant i gyd wedi mwynhau ac wedi creu darnau barddoniaeth o safon dda. Bu Mr Richard Jones, cynrychiolydd o
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
OXFAM yn siarad â Blwyddyn 6 yr Adran Gymraeg.Roedd yn siarad am y plant sy'n dioddef yn Affganistan, ac roedd cwmni HTV wedi ffilmio rhannau o'r drafodaeth yn ogystal â barn rhai o blant Heol-y-Celyn. Cafodd y darn ei ddarlledu ar newyddion yr HTV.
Cafodd y Babanod briodas yn yr ysgol,ble bu Blynyddoedd 1 a 2 yn cynnal priodas fel rhan o'u gwaith ar Ddathliadau. Y briodferch oedd Sophie Thomas a'r priodfab oedd Lewis Thomas ac fel gwesteion gwahoddwyd y rhieni. Roedd y briodas yn llwyddiant mawr.
Bu blynyddoedd 4 a 5 yn brysur iawn yn cymeryd rhan yng nghystadleuaeth Athletau Chwaraeon y Ddraig, a bu nifer o'r plant yn llwyddiannus. Da iawn chi.
I orffen y Mis yma newyddion trist i'r ysgol sef fod dwy athrawes yn gadael. Mae Mrs Lynfa Pugh yn ymddeol ac mae Miss. Eleri Williams wedi cael swydd fel Dirprwy yn Ysgol Dolau. Llongyfarchiadau a phob lwc i'r ddwy ohonynt, ac mae holl staff a disgyblion yr ysgol yn diolch o galon iddynt am eu gwaith caled dros y blynyddoedd.
|
|
|
|
|
|