|
YSGOL GYFUN LLANHARI
EISTEDDFOD YR YSGOL
Cychwynnwyd y cystadlu brwd yn yr Eisteddfod ar ddydd Gwener 15ed Chwefror gyda thri pharti bechgyn. Canodd parti Baruch y gân YMCA a dod yn drydydd, canodd parti Illtyd y gân Pishyn a dod yn ail ond y buddugwyr oedd bechgyn Catwg yn canu "Sex Bomb" yn Gymraeg, cawsom ganu a dawnsio ganddynt. I ddilyn roedd yr unawdau offerynnol a phob un yn safonol iawn. 1af Elin Phillips ar y ffliwt. 2il Mair Roberts, ffliwt. 3ydd Nia Joelle Weinzweig, telyn a 4ydd Carys Rudall, ffliwt. Cawsom dair cân iaith dramor a daeth partïon Dyfan yn 1af ac 2il ac Illtyd yn 3ydd. Yn y partïon merched cawsom Catwg yn canu Lleucu Llwyd yn gyntaf, Baruch a'r Dref Wen yn ail ac Illtyd, Chwarae'n Troi'n Chwerw yn drydydd. Yn canu unawd cân ysgafn fodern daeth Gemma Silvester o Catwg yn gyntaf yn canu Ysbryd y Nos a Samantha Moore yn ail yn canu Dal i Gredu. Cawsom nifer o sgetsus doniol iawn ond Illtyd enillodd gyda'u fersiwn hwy o'r "Weakest Link". Alex Vlahos o 9G oedd yr actor gorau. I orffen y bore cawsom 3 disgybl yn cystadlu ar yr unawd offerynnol. Cyntaf oedd Lowri Morgan ar y piano, ail oedd Gareth Morgan, piano a thrydydd Nathan Trevett, gitâr. Ar ôl cinio cawsom wledd o ddawnsio disgo a'r dyfarniad oedd parti Emily - Dyfan yn gyntaf, Hannah - Illtyd yn ail, parti Kirsty - Illtyd yn drydydd a pharti Nicole - Illtyd yn bedwerydd. Wedi'r dawnsio cawsom seremoni'r cadeirio. Darllenodd Mr Griffiths feirniadaeth Miss Rhian Griffiths a'r canlyniad oedd Trydydd - "Mechell" sef Ryan Chappell bl13 o Catwg, yn ail "Rhian" sef Elin Williams bl13 o Baruch ond yn fuddugol "Egi" sef Ifan Glyn bl13 o Dyfan. Yn anffodus nid oedd y disgyblion yma yn yr ysgol gan eu bod ar daith yn
|
|