|
Camddeall, cwympo mas a charu yn y ddinas fawr ddrwg…dyw nosweithiau Iau ddim wedi bod cweit yr un fath ers i Y Tþ ddechrau ar S4C. Mae'r gyfres feiddgar, sy'n dilyn hynt a helynt criw sy'n rhannu tþ yng Nghaerdydd, wedi denu tipyn o sylw yn y wasg yn barod ac mae RHIAN GRUNDY, sy'n chwarae Angharad, wrth ei bodd i fod yn rhan o ddrama mor herfeiddiol. "Pan ges i'r rhan a darllen y sgript, y peth cyntaf ddaeth i'm meddwl i oedd pwy oedd yn chwarae Rhys, achos mae Angharad a fe'n cael llwyth o snogs!" cyfaddefa Rhian, sy'n 22 oed ac yn dod o Beddau. "Fel mae'n digwydd, ro'n i wedi actio gyda RHYS MILES THOMAS sy'n chwarae Rhys o'r blaen, yn Border Café, felly ro'n i'n falch iawn ac yn teimlo'n gyfforddus iawn gyda'r golygfeydd." "Dyma'r rhan gyntaf dwi wedi'i chael yn y Gymraeg a'r rhan dwi'n fwyaf balch ohoni achos ro'n i wir yn meddwl fod y sgript yn grêt, ac mae'r gyfres y math o beth y byddwn i am ei gwylio." Ond nid actio yw unig ddawn Rhian Grundy. Fe wnaeth hi hefyd gymryd rhan yn y gyfres deledu boblogaidd Pop Idol! "Fe wnes i drio Pop Idol am nad o'n i'n gweithio ar y pryd ac roedd fy Nain i wedi anfon llythyr i'r gystadleuaeth. Pan wnes i droi lan yn Llundain, roedd e'n union fel bod mewn marchnad anifeiliaid, gyda lot o'r merched yn gwisgo dim llawer
|
|