Heini Gruffudd, cadeirydd Rhag yn cyflwyno'r siaradwyr gwadd - Aelodau'r Cynulliad, Michael German, David Davies
ac Owen John Thomas
Cyhoeddir y rhifyn nesaf
ar y 1af Mehefin 2002
Erthyglau a straeon
i gyrraedd erbyn
22 Mai 2002
Y Golygydd
Hendre 4 Pantbach
Pentyrch
CF15 9TG
Ffôn: 029 20890040
Tafod Elái ar y wê
http://www.tafelai.net
e-bost
pentyrch@tafelai.net
Daeth yn amlwg yng nghynhadledd Rhieni Dros Addysg Gymraeg yn Ysgol Rhydfelen ar ddydd Sadwrn olaf mis Ebrill fod problemau di-ri gan rieni sydd am i'w plant gael addysg cyfrwng Gymraeg. Mae cyfyngyiadau ar niferoedd mewn dosbarthiadau meithrin a diffyg darpariaeth lleol yn bynciau llosg mewn sawl ardal yn Ne Cymru. Erbyn hyn mae 1 o bob 8 o blant Caerdydd yn cael addysg Gymraeg ond mae angen nifer o ysgolion cymunedol ychwanegol i ateb y galw. Er fod canran uwch yn cael addysg Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf nid oes llawer o gynydd yn y ddarpariaeth wedi bod yn ddiweddar ac araf yw'r cyngor i ddarparu ysgolion Cymraeg yn Aberpennar a Meisgyn. Y gair mawr a ddefnyddiwyd oedd
'argaeledd' - sef gwneud addysg Gymraeg ar gael i bawb ac o fewn cyrraedd. Roedd cynyddu maint yr ysgolion presennol gyda 400--500 o blant ddim yn ateb parhaol, teimlai'r rhieni fod angen i'r ysgolion fod yn rhai cymunedol Cymraeg. Roedd y cyfrifoldeb yn bendant ar y cynghorau lleol i ddarparu addysg Gymraeg i bawb ac roedd y gynhadledd am i'r Cynulliad sicrhau fod hyn yn cael ei weithredu. Felly mae digon o waith i'w wneud o hyd ac mae rhoi cefnogaeth i fudiad Rhag yn bwysig i sicrhau fod yr iaith yn ail-sefydlu ar seiliau cadarn yn yr ardal hon.
www.cwlwm.com
Gwybodaeth am holl weithgareddau Cymraeg yr ardal.