|
|
|
|
|
Oh La! La! Parti'r Efail
Mae gwaelodion Ffrainc bellach yn gwybod am rinweddau cerddorol Parti'r Efail - ac o bosib un neu ddau o'u gwendidau! Teithiodd y parti o feibion i ganu yn ardal Beziers ym mhriodas un o'u haelodau, Huw Wade, oedd yn priodi, Anne, merch o'r ardal honno. Yn arbennig ar gyfer yr achlysur roedd y bois wedi sicrhau trefniant newydd gan Robat Arwyn o'i waith, "Emyn Priodas" ac fe ganwyd honno dan arweiniad Menna Thomas, fel rhan o'r gwasanaeth ym mhentre bychan Vendres, ger Bezier, ddydd Sadwrn, Ebrill 6. Cafodd y priodfab, Huw, ei esgusodi o fod ymhlith y cantorion am y tro, ond nid felly y bu hi i aelod arall o'r teulu cerddorol hwn - ei dad, Mike Wade. Nid pawb all ddweud ei fod wedi cael galwad i adael ystlys ei wraig, yn rhes ffrynt y gynulleidfa, i ymuno mewn cyflwyniad cerddorol i'w fab a'i ferch yng nghyfraith! I aelodau Côr Godre'r Garth mae'r tri'n wynebau a lleisiau cyfarwydd - Mike, Win a Huw, y tri'n ffyddloniaid y côr cymysg. Bu Anne, y briodferch, yn gweithredu fel athrawes a darlithwraig yn ardal Penybont-ar-Ogwr ers peth amser ac mae'n siarad Cymraeg erbyn hyn. Mae ganddi'n sicr fwy o afael ar yr iaith nag sydd gan rai o Barti'r Efail o'r Ffrangeg! O winllannoedd ei thad y daeth y gwin i'r byrddau ac yn ôl pob golwg fe gafodd e gynhaeaf neu ddau go toreithiog! Roedd yr arlwy a ddarparwyd ar y byrddau yn sicr yn wledd i'r llygaid yn ogystal â'r cylla. Yn sicr ni welwyd y fath gyflwyniad artistig ar ôl cyngherddau eraill Parti'r Efail - ond mae croeso i unrhyw gymdeithas roi cynnig arni! Diolch i ryfel prisiau y cwmnïau hedfan, roedd yr
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
aelodau wedi sicrhau rhai o fargeinion gorau Ryanair i gyrraedd ac aros yn ardal Pezenas, lle roedd y swper priodas yn cael ei gynnal. Credir bod trigolion y dre fechan honno bellach wedi sylweddoli bod rhyw gynnwrf yn yr awel. Felly
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
hefyd ddinas hardd Montpellier ar y noson cyn ffarwelio. Cafodd bwytai yn y ddau leoliad brofiadau cerddorol newydd! Mae'r parti bellach a'u golygon ar Brifwyl Tyddewi ac yn ymarfer yn wythnosol yn festri'r Tabernacl, Efail Isaf.
|
|
|
|
|
|
|