<< Tudalen Blaenorol Tafod Elái Mai 2002  Tudalen Nesaf >>

TONTEG A PHENTRE'R EGLWYS

Gohebydd Lleol: Meima Morse

Capel Salem
Da yw croesawi ein Gweinidog yn ôl wedi toriad o ddau Sul.  Yn ei absenoldeb, mewn un gwasanaeth dilynon ni ar dâp, lwybr yr Iesu o Fethlehem i'r Groes wrth wrando ar ddatganiadau Geraint Gruffydd a Sue Lloyd Davies o "Teilwng yw'r Oen".  Yr ail Sul cawson y cyfle i groesawi'r Parchedigion Allan Pickard a Gwilym Dafydd yn ôl atom - profiadau a oedd yn dwyn atgofion melys.
   Mwynhad pur oedd prif nodwedd parti penblwydd Mrs. Meurig James ar y pedwerydd o Ebrill gyda Meurig a Gwyneth fel brenin a brenhines yn rhannu'r danteithion wrth y bwrdd ac yn arwain y sgwrsio a'r chwerthin.   Arweiniwyd yr adloniant gan Mr Berwyn Davies, sydd mor llwythog ei jôcs a Siôn Corn a'i bresantau  -
cyn y Nadolig wrth gwrs! Wedi amrywiaeth o eitemau perthnasol ymunwyd yn llawn hwyl i ganu penillion a gafodd eu cyfansoddi'n uniongyrchol at yr achlysur arbennig hwn.
   Mae'r aelodau i gyd am ddymuno iechyd gwell i Meurig a Gwyneth James ac estynnwn yr un dymuniad i Mrs Mair Hughes, Mrs Betty Tilling a Mr Norman Rowlands sydd wedi para i roi o'u gorau ar waethaf sawl hen anhwylder diflas dros y gaeaf.
I'r rhai ohonoch a dderbyniodd lythyr ar y We gan Elin Morse yn dechrau fel hyn,- "Wedi cyrraedd yn ôl o Warchodfa'r teigrod....diddorol....gwelais y teigr ar gefn eliffant ynghanol y jyngl..." teimlir y dylid egluro mai Elin oedd ar gefn yr eliffant ac nid y teigr!  Roedd y gwres yn 42 gradd  -  gellir dychmygu mai'r perygl mwyaf o dan amgylchiadau o'r fath fyddai llithro bant o gefn yr eliffant!
  Ffaith ddiddorol ac o falchder i'r Capel, a'r ardal, yw fod tôn a gyfansoddwyd gan gyn-godwr canu yng Nghapel Salem,- John Hughes,- wedi ei chanu yn nau wasanaeth angladdol y Fam Frenhines.  Mae'n debyg fod y dôn "Cwm Rhondda" i eiriau William Williams yn ffefryn gan yr aelod hon o'r teulu brenhinol.
   Da yw sylwi fod Neil Jenkins wedi mentro yn ôl yn swyddogol i'r Cae Rygbi.  Efallai na ddysgodd sgiliau'r gêm oddiwrth ei gyn - athrawes, Mrs Gwyneth Hughes, ond mae lle i

gredu bod ei hysbryd dygn a dyfalbarhaol, efallai wedi bod yn ddylanwad arno.
   Cafodd aelodau'r Gymdeithas Gymraeg pythefnos o hoe dros y Pasg ond mae gweithgareddau'r haf wedi dechrau bellach ers canol Ebrill gydag aelodau newydd yn ein plith.  Estynnwn groeso cynnes iawn i chithau i ymuno â ni.  Ymunodd rhai o aelodau'r Gymdeithas â Mrs Shirley Brooks yn y Ganolfan Hamdden ganol y mis gan fod Shirley wedi trefnu parti penblwydd deugain oed i'w merch Gaynor yno. Mae Gaynor bellach a'i theulu'n byw yn Poole ond bu hi a'i brawd yn ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Gymraeg Gartholwg.  Pob dymuniad da ichi Gaynor. 

Penblwydd
Llongyfarchiadau calonnog iawn i Mrs Hazel Pickard ar gyrraedd dechrau degawd arall.  Mae hi a'i gðr bellach yn drigolion sefydlog yn Nhonteg ers pymtheg o flynyddoedd ac yn fawr eu diddordeb a'u consyrn am bawb a phopeth yma.  Bu'n gam mawr, ar y llaw arall, i symud yma o'r hafan a'r gwreiddiau yn y Gogledd.  Mae Mrs Pickard wedi gorfod dibynnu'n helaeth ar driniaethau niferus yn ysbytai'r ardal a dymunwn yn dda iddi hi, a'i gwr, o ran iechyd a hapusrwydd yn y dyfodol.  

Cydymdeimlad
Estynnir ein cydymdeimlad gwresog i'r Parchedig Glyndwr Williams ar golli ei chwaer ddiwedd y gaeaf.  Rhoddodd y ddynes hon fewnbwn amhrisiadwy o fewn byd addysg a Chymreictod yn enwedig pan oedd yn Bennaeth ar Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Llanelli am flynyddoedd lawer.

Gwellhad Buan
Croeso 'nol i Mrs Anneira Davies wedi derbyn yr ail glun newydd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.  Dymuniadau gorau ichi Anneira  -  dyma siawns ddelfrydol i ganolbwyntio ar yr arlunio yn enwedig, eleni hefyd, gan fod Harri wedi cymryd drosodd llawer o'r "spring cleaning"!  

Croeso Adre
Hyfryd yw croesawi plant yr ardal yn ôl a dyna wnawn i Elin Prys Roberts.  Llongyfarchiadau a phob hwyl iti fel athrawes yn Ysgol Ifan James o fis Medi ymlaen. 

Gohebydd Newydd
Diolch yn fawr iawn i Helen Jones a fu'n ohebydd yr ardal ers 1990. Croesawn Meima Morse sy'n ceisio cael rheolaeth ar ei chyfrifiadur a'r rhyngrwyd i gofnodi'r  newyddion.

YSGOL CASTELLAU


Eisteddfod Sir.
Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yn yr Eisteddfod Sir yn Nhreorci.
   Cafwyd llwyddiant gyda'r parti llefaru a fydd yn cynrychioli'r ysgol yng Nghaerdydd ym mis Mehefin.Daeth y côr, grðp dawnsio disgo a dawnsio disgo unigol yn drydydd.

'Crucial Crew'
Aeth blwyddyn 6 ar ymweliad 'Crucial Crew' i Drefforest. Gwelsant nifer o weithgareddau a oedd yn ymwneud â gwahanol agweddau diogelwch yn y cartref a'r gymuned.

Pêl-droed
Aeth tim pêl-droed yr ysgol i gystadleuaeth 5 bob ochr yr Urdd ym Mharc Darren,Y Rhondda. Er chwarae'n dda colli bu'r hanes yn y diwedd.

Triawd Pres Cymreig
Ar ddiwedd y tymor diwethaf cafwyd cyngerdd gan y triawd. Roedd y plant wrth eu bodd yn gwrando ar y gwahanol offerynnau. Diolch yn fawr iddynt.

4

<< Tudalen Blaenorol Tafod Elái Mai 2002  Tudalen Nesaf >>