<< Tudalen Blaenorol  Tafod Elái Mehefin 2002  Tudalen Nesaf >>

Y Cynulliad Cenedlaethol a'r laith Gymraeg a'r alwad am Ddeddf laith Newydd


Wrth i'r Adolygiad o'r Iaith Gymraeg, gynhelir gan Bwyllgor Diwylliant y Cynulliad Cenedlaethol dynnu tua'i derfyn dymunwn eich gwahodd i Gyfarfod Cyhoeddus yng Nghanolfan y Chapter, Caerdydd nos Fawrth Mehefin 11eg am 7.30. Manteisir hefyd ar y cyfle i ymateb i Gynllun Iaith y Cynulliad Cenedlaethol.
  Y Siaradwyr fydd, Dafydd Wigley AC, Huw Lewis (Cadeirydd Cymdeithas yr laith Gymraeg), Iwan Standley ac Elin Haf Gruffydd Jones.
   Hwn fydd y cyfle cyhoeddus olaf i ymateb i'r Adolygiad Iaith ac mae'n bwysig ein bod yn gwneud ein safbwynt yn glir a phendant.
  Am ragor o wybodaeth cysyllter â:
Swyddfa Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Penroc, Rhodfa'r Môr Aberystwyth
Ceredigion 01970 624501
Cofion cynnes,
Dafydd Morgan Lewis, Swyddog Ymgyrchoedd,
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Datblygu Coedwig


Mae Menter Coedwigaeth Cymru am wella'r mynediad a'r ddarpariaeth yng Ngoed Tynycoed rhwng Efail Isaf a Chreigiau. Dros yr  wythnosau diwethaf cynhaliwyd nifer o arddangosfeydd yng Nghreigiau, Efail Isaf a Phentyrch i ymgynghori â'r cyhoedd. Ymhlith y cwestiynau a ofynnwyd oedd--Rhagor o lwybrau troed? Llwybrau beicio? Bywyd gwyllt? Coed brodorol? Mannau agored? Os oes gennych chi unrhyw sylwadau cysylltwch a Esther Laurence, Rhodiwr y Gymuned, 029 20886863

GOLYGYDD
Penri Williams
029 20890040

LLUNIAU
D. J. Davies
01443 671327
HYSBYSEBION
David Knight 029 20891353
DOSBARTHU
John James 01443 205196
TRYSORYDD
Elgan Lloyd 029 20842115
CYHOEDDUSRWYDD
Colin Williams
029 20890979

Cyhoeddir y rhifyn nesaf
ar y 5ed Gorffennaf 2002
Erthyglau a straeon
i gyrraedd erbyn
26 Mehefin 2002


Y Golygydd
Hendre 4 Pantbach
Pentyrch
CF15 9TG
Ffôn: 029 20890040
Tafod Elái ar y wê
http://www.tafelai.net
e-bost
pentyrch@tafelai.net

17eg Gwyl Ddrama Tafod Elái 2002
Neuadd Dowlais, Llanilltud Faerdref 20--22 Tachwedd 2002
am 7 bob nos.
Ymunwch yn yr hwyl drwy gyflwyno -
Dawns, Drama Un Act, Noson Lawen, Cân, Pantomeim, Rifiw, Comedi.
Manylion pellach: 01443 402867
colin.williams@rhondda-cynon-taf.gov.uk

www.cwlwm.com
Gwybodaeth am holl weithgareddau Cymraeg yr ardal.

2

<< Tudalen Blaenorol  Tafod Elái Mehefin 2002  Tudalen Nesaf >>