<<Tudalen Blaenorol  Tafod Elái Gorffennaf 2002  Tudalen Nesaf >>

CAMLAS ABERHONDDU

GOLYGYDD
Penri Williams
029 20890040

LLUNIAU
D. J. Davies
01443 671327
HYSBYSEBION
David Knight 029 20891353
DOSBARTHU
John James 01443 205196
TRYSORYDD
Elgan Lloyd 029 20842115
CYHOEDDUSRWYDD
Colin Williams
029 20890979

Aeth Cymdeithas Gymraeg Llantrisant ar daith ar gamlas Aberhonddu i orffen eu tymor o weithgareddau.
   Roedd y cwch yn orlawn ar gyfer y daith i lawr y cwm drwy loc Brynich a thros yr Afon Wysg. Trefnwyd y diwrnod gan John Edmunds.

Cyhoeddir y rhifyn nesaf
ar y 1af Medi 2002
Erthyglau a straeon
i gyrraedd erbyn
2 Awst 2002


Y Golygydd
Hendre 4 Pantbach
Pentyrch
CF15 9TG
Ffôn: 029 20890040
Tafod Elái ar y wê
http://www.tafelai.net
e-bost
pentyrch@tafelai.net

SIAN I ARWAIN MENTER CAERDYDD


Mae Menter Iaith Caerdydd wedi penodi Sian Lewis, sy'n Is-Gyfarwyddydd yr Urdd yn y De gyda chyfrifoldeb dros Gaerdydd a'r Fro, fel Swyddog Datblygu newydd y Fenter. Bu Sian yn brysur iawn dros y ddwy flynedd diwethaf ynghyd ag eraill o staff yr Urdd a llu o wirfoddolwyr lleol yn paratoi at yr Eisteddfod ym Mharc Bute.
   Mae'r penodiad yn un amserol iawn gan fod y Fenter yn ffyddiog fod llwyddiant digamsyniol yr Eisteddfod wedi bod yn hwb aruthrol i ymdrechion y rhai sydd am weld y Gymraeg ar wefusau nifer cynyddol o blant, pobl ifanc ac oedolion y brifddinas.
   Mae Sian, sy'n byw ym Mhontcanna, wedi ei magu yng Nghaerdydd. Bu'n ddisgybl yn Ysgolion Bryntaf a Glantaf cyn cymhwyso mewn Astudiaethau Busnes o Brifysgol Caerdydd.
Mae'r Fenter, sy'n cael cefnogaeth ariannol gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, yn

benderfynol o sicrhau bod y Gymraeg yn cael lle canolog ym mhob agwedd o fywyd y ddinas.  Rhan allweddol o waith Sian fydd cydweithio gyda'r Urdd a llu o bartneriaid eraill gan gynnwys Cyngor Sir Caerdydd i ehangu'r cyfleoedd a'r ddarpariaeth i Gymry Cymraeg a dysgwyr o bob oedran i ddefnyddio'r iaith.   

John Rowlands
Cadeirydd Menter Caerdydd 

www.cwlwm.com
Gwybodaeth am holl weithgareddau Cymraeg yr ardal.

Sian Lewis

2

<<Tudalen Blaenorol  Tafod Elái Gorffennaf 2002  Tudalen Nesaf >>