|
|
|
|
|
Efallai nad yw'n 'politically correct' i'w ddweud ond yn fy marn i, dyn od yw'r Ffrancwr cyffredin. Ar ôl treulio deg mis eisoes yn eu plith, mae'r Ffrancwyr dal yn fy nrysu wrth ystyried eu bywyd bob dydd.
Mi gyrhaeddais Toulouse, sydd yn ardal Midi Pyrenées De Ffrainc, yn gynnar ym mis Medi ar ddechrau fy mlwyddyn dramor - fy nhrydedd flwyddyn o astudio Y Gyfraith a Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ystod y misoedd yn dilyn rydw i wedi mwynhau, wedi dysgu ac wedi blasu bywyd gwahanol ond yn fwy na dim rydw i wedi gwylio a chrafu fy mhen!
Cyn ceisio dod o hyd i ryw fath o synnwyr yn rhai o agweddau bywyd Ffrengig fe ysgrifennaf ychydig am y Ffrainc drawiadol, hamddenol a diwylliannol.
I ddechrau, trwy chwarae rygbi dros dîm dan 23 Toulouse fe gefais gyfle i ymarfer, i chwarae ac i gymdeithasu gyda Ffrancwyr ifanc mewn awyrgylch gwbwl Ffrangeg. Rydw i wedi bod yn chwarae mewn gemau llawn a'r 'gallic flair' enwog ar gaeau caled ac o flaen cefnogwyr un-llygeidiog gyda'u hofferynnau swnllyd. Tipyn o brofiad yw chwarae mewn trefi rygbi adnabyddus fel Brive, Perpignan, Castres, Agen a Colomiers. Fe all y gêm yng Nghymru ddysgu o'r ffordd mae clybiau yn Ffrainc yn gosod pwysigrwydd ar rygbi ieuenctid a'u frwdfrydedd tuag ati.
Efallai mai'r rhan gorau o rygbi yn Ffrainc yw'r cymdeithasu. Mae'r arferiad yn hollol wahanol yma. Nid yw'r tuedd o fynd allan yn syth ar ôl gem ac yfed am oriau yn bodoli yma. Yn hytrach mae noson diwrnod gêm gyda'r bechgyn yn cynnwys cwrdd ar ôl cwpwl o oriau yn un o fwytai arbennig Toulouse ac yfed ambell i wydr cyn eistedd i fwyta. Rhyw bedair awr, pum cwrs
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
a digon o win coch yn hwyrach ac mae 'sesiwn' nos Sadwrn ar ben! Rhywfaint yn wahanol i gartre ond yn apelio yn fwy mae'n rhaid cyfaddef.
Mae'n wir bod y Ffrancwyr yn ddigon hamddenol tuag at gadw amser. Yma mae'n nhw'n ei alw'r 'quart d'heure Toulousain', sef pymtheg munud Toulouse. Hynny yw, mae'n rhaid derbyn y bydd pawb a phopeth yn cyrraedd pymtheg munud yn hwyr. Rydw i'n ddigon amyneddgar fel arfer ond mae'r rheol yma yn cynnwys gyrwyr bysiau, trenau a thaxis, hyd yn oed gweithwyr McDonalds!
Arferiad arall anghyffredin y Ffrancwyr yw 'streicio'. Mae'n siwr mi gafodd y protestiadau yn erbyn Jean-Marie Le Pen gyhoeddusrwydd yng Nghymru ac yn wir mi roedden nhw yn fwy dramatig na'r 'manifestation' gyffredin. Serch hynny, nid oes wythnos yn pasio heb fod rhyw fath o ddiwydiant yn streicio neu ryw grðp o bobl yn protestio. Yn aml mae'r orsaf drenau neu'r swyddfa bost yn fwy tebyg i ffair wrth i'r gweithwyr benderfynu yn ddi-rybudd i streicio am ddiwrnod neu ddau.
Rhaid chwerthin hefyd wrth feddwl am agweddau eraill y Ffrancwyr: mae eu gwylio yn parcio yn anghredadwy. Os nad yw gwagle parcio yn ddigon o faint, eu hateb syml yw gyrru i mewn i'r ceir o amgylch er mwyn creu y lle! Nid oes car yn bodoli yn Toulouse heb ôl damwain ddifrifol.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Mae cerdded i lawr y stryd yn brofiad diddorol. Heb gyfnod Thatcher yn Ffrainc nid oes unrhyw gyfraith yn penodi y llefydd mae cðn yn cael ystyried fel toiled. Diolch i hynny mae'n rhaid chwarae gêm o 'hop-scotch' wrth gerdded rhag ofn sathru yng ngwastraff un o filoedd o gðn Toulouse.
Efallai yr hyn sydd yn crynhoi y Ffrancwyr orau yw eu hagwedd tuag at amser cinio. Serch y ffaith nad ydynt yn dechrau gwaith nes deg o'r gloch y bore, mae pawb yn anelu at un bwyty neu gilydd am ddeuddeg nes dau er mwyn mwynhau tri chwrs a photel arall o win! Mae'r ffaith bod popeth bron ar gau yng nghanol dydd yn boen ond, mae'n rhaid cyfaddef, hwn sydd yn gwneud Ffrainc yn wahanol. Maent yn benderfynol bod gan bawb yr hawl i wneud yr hyn maent eu heisiau, i fwyta yn dda ac i beidio brysio. Hyn, yn fwy na dim, sydd wedi ei wneud yn bleser i fyw yma.'
Robert Lamb
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|