|
|
|
|
|
|
Gadael Ysgol Dyma'r cyfnod mae pob un ohonom wedi edrych ymlaen ato rywbryd neu gilydd adeg ein bywydau……….cyfnod gadael yr ysgol! Mae'n bosibl nad yw mwyafrif y darllenwyr yn cofio dathlu'r achlysur trwy fynd am doriad bach i leoedd egsotig fel y Grande Canaria. Dyna, ar y llaw arall, beth fydd rhai o'r ardal hon yn ei wneud ddechrau Gorffennaf! Pob hwyl iddyn nhw ac estynnwn bob dymuniad da i bobl ifainc yr ardal sy'n camu i mewn i gyfnod newydd.
Prif Swyddog Llongyfarchiadau i Lowri Llewelyn ar gael ei hethol yn Brif Swyddog yn Ysgol Gyfun Rhydfelen. Bydd digon o sialens dros y flwyddyn nesaf i Lowri gan ei bod hefyd yn sefyll ei harholiadau Lefel A mewn pedwar pwnc. Pob hwyl i Lowri ymhob cyfrifoldeb newydd a ddaw i'w rhan yn ystod y flwyddyn academig newydd. Graddio Llongyfarchiadau hefyd i Llinos Jones ar raddio mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Bryste. Gobeithio'n fawr y caiff Llinos yr un boddhad a llwyddiant yn y fenter nesaf yn ei bywyd. Colli Mae'n siwr o fod yn weddol agos at y gwir i honni fod y rhai na fwynhaodd bryd o fwyd yn nhy bwyta John a Maria's ym Mhontypridd rhywbryd yn ystod yr hanner canrif diwethaf ymysg lleiafrif darllenwyr Tafod Elái. Tristwch mawr yw cofnodi iddo gau ei ddrysau am y tro olaf ynghanol Mehefin. Teg yw dweud y gedy'r digwyddiad fwlch mawr hefyd ym mywyd cymdeithasol ymwelwyr cyson tu allan i'r ardal hon. Yn wir, byddai cysylltiadau'n galw o bell gyda theuluoedd yn yr ardal gyda'r brif nod o "fynd am bryd o fwyd i
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
John's!" Cadwodd y teulu y naws Eidaleg a'r safon arbennig o uchel trwy gydol yr amser. Y newyddion da yw fod y ddau fachgen yn mynd i ehangu'r Café Royale. Mae Maria'n haeddu cael y siawns i eistedd yn ôl ychydig er mwyn gwerthfawrogi ei theulu. Diolch yn fawr Maria. Profiad diarhebol o ddwys gafodd Mrs Sandie Grindlay a hithau wedi trefnu achlysur ar y Bannau i godi arian i Ty Hafan. Roedd ei gðr, Peter, yn helpu trwy stiwardio ar frig Pen y Fan pan ddioddefodd drawiad ar y galon ac roedd wedi marw erbyn cyrraedd yr ysbyty ac roedd y cyfan wedi digwydd cyn i'w wraig gael unrhyw wybodaeth. Danfonir cydymdeimlad syml yr ardal i Sandie a'r teulu yn eu colled.
Capel Salem
Perfformiodd aelodau'r Capel a phlant yr Ysgol Sul ddrama gerdd fer - "Rwth", - a gafodd ei hysgrifennu gan Howard Morse, ar nos Sul, Mehefin 16fed. Y cyflwynydd oedd Mrs Myra Davies a'r rhai a gymrodd y prif rannau oedd Mrs Lillian Davies a Mrs Lynn Cutts i gyfeiliant offerynnau pres aelodau'r Ysgol Sul, y gitâr gan y Gweinidog a'r organ gan Howard. Coronwyd y datganiad gyda chôr y Capel yn cyflwyno'r prif ganeuon. Mwynhawyd y barbeciw blynyddol ar nos Wener, yr unfed ar hugain o Fehefin, gyda'r tywydd yn gwneud ei orau glas i fihafio! Cafwyd hwyl yn ystod ail ran y noson gyda phawb yn ymuno i ganu emynau o'r "Caneuon Ffydd" i gyfeiliant y gitâr gan y Gweinidog. Cafwyd trafod brwd ar noson gyntaf "Grwp y Sgrepan". Testun y drafodaeth oedd pennod gyntaf "O Sgrepan Teithiwr" gan Gwilym H. Jones lle mae'r awdur yn mynnu fod yn rhaid cyflwyno'r neges mewn
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
iaith newydd ag ystyrlon at angen yr oes hon. Does neb sy'n or - awyddus i addasu'n mynd i fod yn boblogaidd gan nad yw'n gyfforddus i siglo'r cwch. Tynnodd y Gweinidog ein sylw at y ffaith mai yn y lleiafrif fu William Wilberforce wrth ymladd yn erbyn caethwasiaeth. Erbyn hyn mae'n anodd credu nad oedd pawb yn ei gefnogi o'r dechrau. Cytunom oll mai Masnach Deg fydd yn dilyn yr un patrwm yn ystod y degawd neu ddau nesaf. Yn sgil y drafodaeth uchod cynigiodd Mr Harri Davies y byddai'n syniad adeiladol i gynnwys cyfraniad byr ym mhatrwm "Myfyrdod y mis" neu "Munud i feddwl" yn y Tafod. Tybed beth fyddai ymateb darllenwyr, neu gapeli, eraill. Da yw deall fod Elin Morse wedi dychwelyd adref yn saff o New Delhi. Mae Efa'r Enfield hithau siwr o fod wedi dechrau ar ei siwrnai ac ar ei ffordd i Calcutta. Dylai gyrraedd porthladd Portsmouth ganol Gorffennaf.
Y Gymdeithas Gymraeg: Cafwyd noson hir gofiadwy yng nghwmni Mrs Enid Jones. Rhoddodd ddisgrifiad byw o'i dau ymweliad â Gerddi Monet yn Normandi gan godi chwant ar ei gwrandawyr i ddilyn yr un patrwm. Treuliwyd noson arall yn olrhain cyfraniad James Kitchener Davies ym myd llenyddiaeth, gwleidyddiaeth ac addysg gan y byddai'n gant oed eleni a'i fod wedi marw ers hanner canrif. Diddordeb ychwanegol i drigolion yr ardal yw bod ei chwaer, Mrs. Tish Harcombe, wedi treulio ei blynyddoedd olaf yn Efail Isaf a Phentre'r Eglwys. Cofir am ei brwdfrydedd a'i chefnogaeth hithau i'r "Pethau". Edrychir ymlaen i groesawu Mr Geraint Price i'n plith ddechrau Awst.
|
|
|
|
|
|