<<Tudalen Blaenorol             

Tafod Elái 170  Medi 2002           

Tudalen Nesaf >>

EFAIL ISAF
Gohebydd Lleol:
Loreen Williams

Suliau Mis Medi.
Ar ôl bod yn cydaddoli gydag aelodau Bethlehem, Gwaelod y Garth yn ystod gwyliau'r Haf byddwn yn ôl yn Y Tabernacl ym mis Medi.
SULIAU: Medi 1af, 8fed, a 15fed - Y Parchedig Eirian Rees.
Medi 22 ain - Sul Y Cyfundeb yn Ysgol Llanhari
Medi 29 ain - Y Parchedig Cynwil Williams.

GOLYGYDD
Penri Williams
029 20890040

LLUNIAU
D. J. Davies
01443 671327
HYSBYSEBION
David Knight 029 20891353
DOSBARTHU
John James 01443 205196
TRYSORYDD
Elgan Lloyd 029 20842115
CYHOEDDUSRWYDD
Colin Williams
029 20890979

PENBLWYDD
Llongyfarchiadau i Bethan Eyres, Heo1 Iscoed ar ddathlu ei phenblwydd yn un ar hugain oed ym Mis Gorffennaf. Digwyddiad a gafodd sylw dros Gymru gyfan gan John Hardy ar ei raglen radio "Cwrt Cosbi".

GWELLHAD BUAN
Dymunwn yn dda i Audrey Jones, Nant y Felin sydd wedi bod yn derbyn triniaeth ar ei llygaid yn Yr Ysbyty Brenhinol yn Llantrisant yn ddiweddar.
   Estynnwn ein dymuniadau gorau hefyd i Sid Davies, Ffordd y Capel sydd wedi bod yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty unwaith eto yn ystod yr Haf. Mae'n dda clywed ei fod adre erbyn hyn ac yn teimlo'n well.

FFAIR Y PENTRE
Cynhaliwyd ffair lwyddiannus iawn yn y pentre' yn ystod yr Haf. Yn ogystal â'r stondinau, gwisg ffansi a'r cystadlaethau arferol roedd yna atyniad ychwanegol eleni. Benthyciwyd hen organ ffair hynafol ac fe swynwyd pawb gan y gerddoriaeth.

Y TABERNACL
Teithiau a Gwyliau Haf.
Bu rhyw ddeugain o aelodau y gynulleidfa Saesneg yn mwynhau penwythnos yng Ngwersyll Llangrannog ym mis Gorffennaf. Cafwyd digon o hwyl a digon o weithgareddau i gadw pawb yn brysur,
   Bu aelodau Teulu Twm yn mwynhau egwyl yn Nant Gwrtheyrn yn ystod Mis Awst.

Clwb y Dwrlyn
Noson Gwis
Ysgol Creigiau
8pm Nos Wener 20fed Medi.
Gwybodaeth pellach:
029 20890040

Cyhoeddir y rhifyn nesaf
ar y 1af Hydref 2002
Erthyglau a straeon
i gyrraedd erbyn
18 Medi 2002


Y Golygydd
Hendre 4 Pantbach
Pentyrch
CF15 9TG
Ffôn: 029 20890040
Tafod Elái ar y wê
http://www.tafelai.net
e-bost
pentyrch@tafelai.net

Cymdeithas Gymraeg Llantrisant
Siaradwr gwadd:
Alun Wyn Bevan
Nos Wener 13 Medi
Manylion: 01443 218077

Merched y Wawr
Cangen y Garth
Noson yng nghwmni
Siân Thomas
8pm Nos Fercher, 11ed Medi
Neuadd y Pentref, Pentyrch
Manylion - 01443 204391.

CYLCH CADWGAN

Mererid Hopwood
yn siarad ar y testun
'Fflwr a Dwr a Dyddiau Da'.

8pm Nos Wener
Hydref 4 2002
Neuadd y Pentref, Efail Isaf.
Gyda chymorth yr  academi

www.cwlwm.com
Gwybodaeth am holl weithgareddau Cymraeg yr ardal.

17eg Gwyl Ddrama Tafod Elái 2002
Neuadd Dowlais, Llanilltud Faerdref 20--22 Tachwedd 2002
am 7 bob nos.
Ymunwch yn yr hwyl drwy gyflwyno -
Dawns, Drama Un Act, Noson Lawen, Cân, Pantomeim, Rifiw, Comedi.
Manylion pellach: 01443 402867
colin.williams@rhondda-cynon-taf.gov.uk

2

<<Tudalen Blaenorol             

Tudalen Nesaf >>