 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
YSGOL GYMRAEG LLANTRISANT YN 25
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
Llongyfarchiadau mawr i Robyn Howell o ddosbarth Mrs Veck sydd wedi ennill nifer fawr o wobrau yn ddiweddar am farchogaeth. Mae Robyn wrth ei bodd gyda cheffylau ac yn llwyddiannus iawn pan yn cystadlu dros y wlad mewn sioeau.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Pen-blwydd Hapus Ysgol Gymraeg Llantrisant! Dyna oedd neges plant yr ysgol yn ystod tymor yr haf eleni. Cynhaliwyd parti i'r plant i gyd ar iard yr ysgol ar Orffennaf 18fed i ddathlu pen-blwydd yr ysgol yn bump ar hugain. Daeth Martin Geraint i'r ysgol i ddiddanu'r plant gyda sioe llawn hwyl a sbri. Yn y bore, daeth hofrennydd yr Heddlu dros safle'r ysgol i dynnu lluniau'r ysgol gyfan yn chwifio'n braf ar yr iard. Diolch yn fawr iawn i'r Gymdeithas Rieni ac Athrawon am weithio'n galed i drefnu'r diwrnod arbennig hwn. Diolch hefyd i holl staff yr ysgol am eu hymroddiad a'u cefnogaeth fel arfer!
Yn ogystal â'r parti a'r sioe, trefnwyd Ras Balwnau a Ras Hwyaid gan y Gymdeithas Rieni i godi arian tuag at gronfa'r ysgol ac i nodi'r achlysur arbennig hwn. Codwyd swm sylweddol o arian rhwng y ddwy gystadleuaeth a hoffem ddiolch yn fawr iawn i'r holl rieni a ffrindiau a brynodd balwn neu hwyaden! Daeth hwyaden Richard Henderson yn gyntaf ac enillodd £50! Nid ydym wedi dewis enillydd y Ras Balwnau ar hyn o bryd. Bydd mwy o newyddion cyn bo hir rwy'n siwr!
Blwyddyn addysgol newydd a gwisg ysgol newydd hefyd! Daeth y plant 'nol i'r ysgol y tymor hwn yn edrych yn hyfryd yn eu gwisg ysgol newydd. Penderfynwyd newid lliw y wisg ysgol i borffor eleni fel rhan o'n dathliadau ar gyfer penblwydd yr ysgol. Yr un bathodyn sydd ar y wisg ysgol ond mae'r lliwiau wedi newid ychydig eleni. Ar ôl oriau o waith ymchwil gan Mrs Alyson Hurst, gwelwyd bod angen newid lliwiau'r bathodyn i gyd-fynd â'r lliwiau cywir ar fathodyn Pentref Llantrisant. Da iawn D.I. Hurst! Mae'r plant wrth eu boddau yn gwsigo'r wisg newydd ac yn wir, mae'r lliw newydd wedi codi calon pawb.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Martyn Geraint yn y dathlu
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Croeso mawr i blant newydd y Dosbarth Meithrin. Mae 27 o blant wedi ymgartrefu'n llwyr yn yr ysgol erbyn hyn ac yn barod i weithio'n galed gyda Mrs Riggs a Mrs Hurst.
Llongyfarchiadau mawr i Mrs Eleri Jones, athrawes blwyddyn 4, a Mr Leyton Jones, ei gðr hi. Ganwyd merch fach i Mr a Mrs Jones, Alys Caitlin, yn ystod gwyliau'r haf. Mae'r ddwy yn gwneud yn dda ac edrychwn ymlaen at weld y babi newydd .
Gwellhad buan i Mrs Flo Price, glanhawraig yr ysgol, sydd ddim wedi bod gyda ni am sbel go hir nawr oherwydd salwch. Gobeithiwn ei gweld hi'n ôl gyda ni cyn bo hir.
Daeth cyn-ddisgybl, Catherine Scott atom y tymor hwn i arsylwi ar waith yr athrawon cyn mynd i'r coleg i ddechrau cwrs dysgu. Hefyd, daeth Miss Anna Jones nol atom gyda Catherine. Buodd Anna gyda ni am flwyddyn fel cymorth athrawon llynedd. Pob lwc i'r ddwy ohonynt!
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Amser i ymweld â Llangrannog unwaith eto! Mae 65 o blant yn ymweld â'r gwersyll ger y lli eleni ar Fedi'r 20fed. Mae penwythnos llawn hwyl a sbri o'u blaenau gyda nifer o weithgareddau cyffrous megis marchogaeth, sgio a nofio i enwi ychydig. Rwy'n siwr hoffai'r plant a rhieni ddiolch i'r athrawon a fydd yn mynd â'r plant unwaith eto eleni yn ystod eu hamser gwerthfawr. Wrth gwrs, heb gefnogaeth y staff, ni fyddai ymweliad â Llangrannnog yn bosibl.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|