 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
PENTYRCH
Gohebydd Lleol: Bethan Griffith
|
|
|
|
|
 |
|
|
 |
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
"Pen-blwydd hapus!" Dyna fydd y gri yn atsain o amgylch Cymru eleni, wrth i S4C ddathlu ei hugeinfed pen-blwydd ar Dachwedd laf. Mae'n anodd credu fod 20 mlynedd wedi gwibio heibio. Wrth edrych yn ôl ar y blynyddoedd hynny mae rhywun yn teimlo balchder ac yn rhyfeddu at ddawn y bobl dalentog rydym wedi eu magu yma yng Nghymru fach! O SuperTed i Wali Tomos, o Joni Jones i Dai Jones, mae'r Sianel wedi arloesi wrth ein diddanu a bydd hynny yn parhau dros y blynyddoedd i ddod.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
I nodi'r pen-blwydd pwysig hwn, bydd nifer o raglenni diddorol yn cael eu darlledu dros y misoedd nesaf. Gwyliwch allan amdanyn nhw! Dyma flas o rai o raglenni'r dathlu... Ar noson y pen-blwydd, sef nos Wener, Tachwedd 1, bydd cyfle i fwynhau gwibdaith drwy'r 20 mlynedd wrth i'r gwr bonheddig a ffraeth, Aled Sam, gyflwyno rhaglen arbennig a fydd yn pori ymysg rhaglenni'r gorffennol. Bydd nifer o westeion yn ymuno yn yr hwyl wrth i ni gofio'r dyddiau da wrth edrych ymlaen at y diddanu a'r dyddiau da i ddod! Uchafbwyntiau'r gyngerdd fawreddog a gynhaliwyd yn Theatr Gogledd Cymru Llandudno a lwyddodd i gwmpasu'r holl dalentau sydd wedi ymddangos ar S4C dros yr 20 mlynedd diwethaf. Noson i'w chofio, yn wir! Ymunwch yn yr hwyl ar S4C nos Sadwrn, Tachwedd 2. Ar Nos Sul, Tachwedd 3, mewn rhifyn arbennig o'r gyfres boblogaidd Dechrau Canu Dechrau Canmol, mi fyddwn ni'n ymuno yn fyw a Chymanfa Ganu cyd-enwadol yng Nghapel y Tabernacl, Treforys, o dan arweiniad Alwyn Humphreys. Huw Tregelles Williams fydd yr organydd. Ac mi fydd y plantos wrth eu boddau wrth wylio rhaglen yn llawn cerddoriaeth a sbort, Dydd Gðyl Hwyl, yng nghwmni rhai o ffefrynnau Planed Plant Bach gan gynnwys Sali Mali, Tecwyn y Tractor; Jac y Jwc, Bwgan a Rhacsyn, Twt a'u ffrindiau. Hanes y frwydr i sefydlu S4C a datblygiad y Sianel wedi hynny fydd pwnc rhaglen ddogfen arbennig fydd yn ein h.arwain trwy gyfnodau tri Prif Weithredwr y Sianel sef Owen Edwards, Geraint Stanley Jones a Huw Jones. Bydd y rhaglen Plant y Sianel yn ail ymweld â'r plant hynny wnaethon ni gyfarfod yn gyntaf draw ym 1992. Mae'r plant yma yn rhannu pen-blwydd a'r Sianel ac felly yn oedolion erbyn hyn wrth gwrs! Beth yw eu hanes erbyn hyn? Beth yw eu barn am Gymru 2002?
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ffarwelio Yn ystod gwyliau'r haf, gwelsom deulu Waterworth yn gadael Pentyrch, ac yn symud i fyw i Gaerfyrddin. Mae Rhys a Lisa Beth nawr yn mynychu Ysgol Bro Myrddin, a Siôn yn Ysgol y Dderwen. Dymunwn pob lwc wrth iddynt ymgartrefu yn eu hardal newydd. Llongyfarchiadau ..................i'r rheiny ohonoch bu'n llwyddiannus yn eich haroliadau TGAU a Lefel A dros yr haf. Pob hwyl i chi yn eich cyrsiau neu'ch gyrfaoedd detholedig.Mae'n anodd gwybod am bawb, a maddeuwch i mi os nad ydw'i wedi son amdanoch. Llongyfarchiadau mawr ....................i Zoe Coombes sydd newydd raddio o Goleg Cerdd a Drama Caerdydd, gyda gradd Dosbarth Cyntaf. ....................i Ifan Glyn sydd ar fin dechrau astudio'r Gyfraith yng Ngaerdydd. .....................i Anna Glyn a Medi Warburton wrth iddynt ddechrau 6ed Dosbarth. Pob hwyl a iechyd da i ti Anna yn arbennig wedi dy lawdriniaeth ar dy wyliau. ....................i Lowri Morris, Troed y Garth sydd newydd ddechrau yng Ngoleg y Drindod, Caerfyrddin. ......................ac i'w chwaer Nia sydd, yn ddiweddar wedi pasio ei phrawf gyrru. Clwb y Dwrlyn Mae tymor newydd Clwb y Dwrlyn wedi dechrau gyda noson Gwis yn cael ei gynnal yn Ysgol Creigiau gyda'r cwis feistr arbennig--Huw Onllwyn. Ar Pnawn Sul, Hydref 13, bydd 'na daith gerdded lleol i'r teulu cyfan, o dan ofal Don Llewelyn.Yn arferol, rydym wedi bod yn lwcus gyda'r tywydd, ac wedi cael
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
pnawnau braf , tra'n dysgu ychydig o hanes lleol yr ardal . Byddwn yn cwrdd ym Maes Parcio Neuadd y Pentref ym Mhentyrch am 2 o'r gloch. Dewch i ymuno â ni! Merched Y Wawr Siân Thomas o Radio Cymru oedd ein gwestai yn noson agoriadol Cangen y Garth ym Mhentyrch. Mewn sgwrs ddiddorol dros ben aeth â ni i fyd yr Aifft. Croeso Er mod i wedi croesawu'r teulu Evans, 2 Clawddshon i'r pentref ychydig yn ôl, ond nawr mae'r plant wedi dechrau mynychu Ysgol Creigiau. Felly, croeso i Geraint a Siwan sydd newydd ddechrau yn Nosbarth 3 a 2 . Gobeithio wnewch ymgartrefu'n gyflym yn yr ysgol, a mwynhau ymysg eich ffrindiau newydd. Apêl Ga'i apelio ar i chi'r darllenwyr, ddanfon newyddion ata i? Efallai mod i ddim yn ymwybodol o bopeth sydd wedi digwydd yn y pentref. Os clywch rhywbeth a fasai o ddiddordeb i ni gyd (llongyfarch, i ddymuno'n da, i gydymdeimlo, i ffarwelio), beth am gysylltu a mi drwy osod neges drwy'r drws, neu fy ffonio ar 20 892954. Ond gyda'ch cymorth chi, medraf lenwi'r golofn!
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|